Harold Lowe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 40:
 
==Yr ymchwiliadau==
Glaniodd goroeswyr y Titanic ar Bier 54 yn Efrog Newydd ar 18 Ebrill. Galwyd Lowe yn fuan ar i dystio yn yr ymchwiliad yn America i mewn i'r suddo. Byrddiodd ar yr Adriatic ar 2 Mai i ddychwelyd i wledydd Prydain, a chafodd ei alw i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad Prydeinig. Bu cwyno bod tystiolaeth Lowe i'r ymchwiliad Americanaidd yn wamal a sarhaus er enghraifft pan ofynnwyd iddo ; ''O ba beth y gwnaed mynydd rhew'' ei ateb oedd ''rhew am wn i Syr'' cafodd ei feirniadu hefyd am fod yn hiliol a bu'n rhaid iddo ymddiheuro ddwywaith am ddefnyddio'r term ''Eidalwr'' fel mwys am lwfrgi.
 
Yn 2012 gwnaed traws ysgrifau o'r holl dystiolaeth a roddwyd gerbron ymchwiliad y Senedd yn yr UDA ac ymchwiliad Comisiynydd Llongddrylliadau Prydain a'u gosod ar y we. Mae tystiolaeth Lowe yn dechrau ar y pumed diwrnod o'r [http://www.titanicinquiry.org/USInq/AmInq05Lowe01.php ymchwiliad Americanaidd] ac ar [http://www.titanicinquiry.org/BOTInq/BOTInq13Lowe01.php ddiwrnod 13 o'r ymchwiliad yn Llundain].<ref>[http://www.titanicinquiry.org/ Titanic Enquiry Project] adalwyd 26 Mai 2016</ref>
 
= Cyfeiriadau =