Ainŵeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cedny (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwangeu mwy at Siaradwyr, a rhan Dirywiad ac Adfywiad
Cedny (sgwrs | cyfraniadau)
Dosbarthiad Ieithyddol
Llinell 1:
'''Ainŵeg''' (Ainŵeg: アィヌ・イタㇰ ''Aynu=itak''; [[Japaneg]]: アイヌ語 ''Ainu-go'') yw iaith a siaredir gan aelodau’r [[grŵp ethnig]] [[Ainw]] ar ynys [[Hokkaidō]] yng ngogledd [[Japan]]. Y mae hi’n iaith mewn perygl<ref name=":0">https://www.ethnologue.com/country/JP/languages </ref><ref>http://www.unesco.org/languages-atlas/en/atlasmap/language-id-475.html </ref>, ond ceir ymgais i’w hadfywio.<ref>http://www.frpac.or.jp/english/details/promotion-of-the-ainu-language.html</ref> Mae anghytundeb ar sawl siaradwr sydd yn bodoli heddiw, ac mae'r niferoedd yn amrywio rhwng 2 a 15 o siaradwyr.<ref>http://www.endangeredlanguages.com/lang/1212</ref>
 
Siaredir Ainŵeg yn flaenorol yn eang ar draws Hokkaidō, ar draws llawer o ynys [[Sachalin]], ac ar yr [[ynysoedd Kuril]] sydd yn cysylltu gogledd-ddwyrain Hokkaidō â [[gorynys Kamchatka]] yn [[Siberia]]. Mae hefyd arwydd o’r iaith yn cael ei defnyddio ar [[Honshū]], rhan ogleddol prif ynys Japan, o edrych ar enwau llefydd yn yr ardal. Mae’r ardaloedd traddodiadol lle bu’r iaith yn cael ei siarad wedi dioddef [[symudiad iaith]] enfawr dros y 200 mlynedd diwethaf<ref>Maher, J.C. ''Akot Itak - Our Language, Your Language: Ainu in Japan'' (Penod 14) yn Fishman, Joshua (2001) ''Can Threatened Languages be Saved?  Reversing Language Shift, Revisited: a 21st Century Perspective.'' </ref>.  
 
== Dosbarthiad Ieithyddol ==
Disgrifir Ainŵeg fel [[unigyn iaith]]<ref name=":0" />, h.y. nid yw hi'n perthyn i unrhyw iaith arall, ond mae sawl awgrym wedi bod ynglyn â pha deulu ieithyddol y mae'r Ainŵeg yn ei berthyn iddo. Yn ei eiriadur Ainŵeg-Saesneg-Japaneg ym 1889, awgrymodd [[John Batchelor]] bod yr iaith yn perthyn i'r [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]], gan gymharu geiriau rhwng Ainŵeg a'r Gymraeg a Chernyweg,<ref>Shibatani, Masayoshi (1990) ''The Languages of Japan'' </ref> er enghraifft '''garu''' a '''garw''' sydd ậ'r un ystyr; '''guru''', sy'n golygu 'person' neu 'dyn', a '''gŵr'''; '''pen''', sydd yn golygu aber, rhan uwch o ddyffryn, neu darddle, mewn cymhariaeth a'r gair '''pen''' yn y Gymraeg; a '''chisei, tshe''' neu '''che,''' sydd yn golygu 'tŷ', a oedd Batchelor yn gweld yn debyg i'r gair Cernyweg '''tshey''', sef 'tai'.<ref>Batchelor, John (1889: 73-74) ''An Ainu-English-Japanese Dictionary (Including a Grammar of the Ainu Language) Arlein:'' http://library.uoregon.edu/ec/e-asia/read/ainueng.pdf</ref>
 
==Siaradwyr==
Llinell 101 ⟶ 104:
|
|}
Gall leisio'r cytseiniaid ffrwydrol /p t ts k/ i [b d dz g] rhwng lafariaid ac ar ôl cytseiniaid trwynol.
 
[[Categori:Iaith]]