Mai Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
== Cefndir ==
Ganwyd Jones yng [[Casnewydd|Nghasnewydd]] yn unig ferch i Thomas John Jones, gorsaf-feistr y dref a Beatrice ei wraig. Roedd y tad yn Gymro Cymraeg a'r fam yn ddi-gymraeg, ond yn groes i'r arfer yng [[Gwent|Ngwent]] y cyfnod, magwyd Mai i fod yn rhugl yn y ddwy iaith<ref>Yr archif Genedlaethol Cyfrifiad 1911 ar gyfer 40 Christchurch Road, Casnewydd cyfeirnod RG14PN31987 RG78PN1840 RD587 SD2 ED28 SN303/31987</ref>. Er yn ifanc iawn dangosodd Mai dawn fel pianydd gan ennill mewn eisteddfodau. Yn 10 mlwydd oed fe'i penodwyd hi'n organydd Capel yr [[Annibynwyr]] Mynydd Seion, Casnewydd, ac fe'i penodwyd yn un o gyfeilyddion swyddogol [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pont-y-pŵl 1924|Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl, 1924]]. Derbyniodd ei addysg yng [[Prifysgol Caerdydd|Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd]] a Choleg Cerdd Brenhinol, Llundain.
 
==Gyrfa==
 
Gan ganu llais, piano ac acordion a thrwy ddynwared artistiaid eraill, dechreuodd dod i sylw'r cyhoedd ar y sin adloniant ysgafn yn Llundain y 1920au. Bu'n aelod o sawl grŵp amlwg gan gynnwys ''The Five Magnets '', ''The Carroll Sisters '' (gyda Elsie Eaves fel ei ''chwaer''), ''The Three Janes'' a band dawns y BBC dan arweiniad Jack Payne, gyda band Payne gwnaeth ei darllediad radio gyntaf ym 1928.
 
==Cyfeiriadau==