Muhammad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dandelo (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Alm76fym (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Gwrthdröwyd
Llinell 1:
{{Islam}}
Sylfaenydd crefydd [[Islam]] oedd '''Muhammad''' neu '''Mohamed''' ([[26 Ebrill]], [[570]] - [[8 Mehefin]], [[632]]). Ganwyd ef ym [[Mecca]] rywbryd yn y flwyddyn 570 OC, yn fab i Abd Allah a oedd yn aelod o deulu'r Hashimiaid o lwyth y [[Quraysh]], a bu farw ym [[Medina]] (yn [[Sawdi Arabia]] heddiw). Bu farw ei dad cyn iddo gael ei eni a bu ei fam, Amina, farw pan oedd yn chwech oed.
 
Yn ôl dysgeidiaeth Islam, cafodd Muhammad weledigaeth ddwyfol yn [[610]], y gyntaf o nifer. Gwelodd yr [[angel]] [[Gabriel]] a chlywed llais yn dweud wrtho "Adrodd". Ar ôl oedi a phetruso, yn y diwedd derbyniodd Muhammad yr alwad. Arwyddocâd y weledigaeth oedd iddo fod yn lladmerydd i'r gwirionedd dwyfol a dechrau lledaenu'r neges newydd.