Pêl fas Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: == Pêl-fâs Cymreig (Brydeinig) == Does neb a wyr pryd dechreuwyd chwarae Pêl-fâs Cymreig (neu Brydeinig) i sicrwydd gan iddo ddatblygu o gyfuniad o gemau bat a phêl ers yr Oes...
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Does neb a wyr pryd dechreuwyd chwarae Pêl-fâs Cymreig (neu Brydeinig) i sicrwydd gan iddo ddatblygu o gyfuniad o gemau bat a phêl ers yr Oesoedd Canol. Serch hynny, gellir dyddio sefydlu Pêl-fâs Cymreig yn 1892 pan cytunodd cyrff llywodraethol y gêm yng Nghymru ac yn Lloegr newid enw'r sport o 'rownderi' (rounders) i bêl-fâs (baseball).
 
Chwaraeir y gêm bellach mewn tri prif drefnlan - yn wir, dydy'r gêm braidd wedi symud o'r dinasoedd diwydiannol morwrol ers dros canrif. Y dinasoedd Cymreig lle chwaraeir y gêm bron yn escliwsif yw Caerdydd a Chasnewydd. Cyfyngir y gêm yn llwyr i Lerpwl yn Lloegr. Serch hynny, ceir gên ryngwladol flynyddol rhwng Cymru a Lloegr - gêm a ddenodd dorf o ** yn Nghaerdydd yn 1947. Bellach, denir torfeydd o fawr mwy na mil. Mae'r gêm wedi crebachu mewn poblogrwydd yn Lerpwl gyda cwta tripedair tîm yn ei chwarae, tra fod y sefyllfa'n iachach yng Nghymru ac hyd yn oed tŵf mewn pêl-fâs merched. Gobeithir cael hwb pellach i'r gêm yng Nghymru gyda chefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol - bu'r cyn Aelod Cynulliad, Owen John Thomas (Plaid Cymru)yn gefnogol iawn i'r gamp.