Asid niwclëig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Dosbarth pwysig o folecylau biolegol
 
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B Cysylltiadau
Llinell 1:
Mae asidau niwclëig yn rhan anhepgor o fiocemeg bywyd ar y ddaear. Maent yn un o'r ychydig ffactorau sy'n nodweddi bopeth byw. Mae iddynt ddwy ffurf wedi'u sylfaeni ar ribos (RNA - acronym o'r Saesneg ''RiboNucleic Acid'') a deocsiribos ([[DNA]]). Polymerau o niwcleotidau ydynt. Asid niwclëig deocsiribos ([[DNA]]) sy'n ymgorffori holl wybodaeth etifeddol organeb (a phob [[Cell (bioleg)|cell]] ynddynt). Dyma sylfaen y cromosomau ac etifeddiaeth fiolegol. Mae swyddogaethau asid niwclëig ribos (RNA) yn fwy amrywiol. Er enghraifft, mae mRNA (m = "messenger" (Saes), negesydd) yn rhan o'r broses o drosglwyddo'r wybodaeth a gedwir yn nhrefn niwcleotidau DNA i strwythur proteinau. Proteinau yw'r catalyddion gweithredol sy'n gyfrifol am yr hyn yr adnabyddir fel bywyd biolegol. Mae tRNA (t = trosi) yn allweddol yn y broses o drosi'r wybodaeth yn nilyniant DNA (mewn "iaith" niwcleotidau) i ddilyniant asidau amino proteinau, tra bo rRNA (r = ribosom) yn chwarae rhannau yn strwythur ac ymddygiad ribosomau (yr organynnau sy'n adeiladu proteinau). Yn y ganrif hon darganfuwyd sawl math o RNA sy'n ymwneud a rheoli gweithgaredd celloedd. Disgwylir i sawl un o'r rhain bod yn bwysig mewn [[biotechnoleg]] a meddyginiaethau’r dyfodol.