Charles Paget: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 34:
 
==Cefndir==
Roedd Syr Charles yn bumed mab i Henry Bayly Paget, nawfed Barwn Paget a'r iarll cyntaf Uxbridge o'r ail greadigaeth a'i wraig, (Jane née Champagne). Roedd yn frawd i [[Henry William Paget]], [[Ardalydd Môn|ardalydd cyntaf Môn]], Syr Arthur Paget, a Syr Edward Paget.
 
Ar 7 Mawrth 1805 Priododd Elizabeth Araminta (bu f. 1843), merch Henry Monck o Foure, Swydd Westmeath; bu iddynt bedwar mab a chwe merch.
 
== Gyrfa forwrol ==
Aeth Paget i'r [[Y Llynges Frenhinol|Llynges Frenhinol]] ym 1790 o dan nawdd Syr Andrew Snape Douglas, ac, ar ôl gwasanaethu ym [[Môr y Gogledd]] a [[Môr Udd]], cafodd ei benodi'n is gapten ar y gwarchodlong ''Centaur'' yn y [[Afon Tafwys|Tafwys]] ym 1796; ym 1797 fe'i dyrchafwyd yn feistr ar y slŵp ''Martin'' ym Môr y Gogledd, ac ym 1797 cafodd ei bostio i'r ''Penelope'' a oedd yn amddiffyn Môr Udd.
 
O fis Hydref 1798 fe fu'n feistr yr ''Brilliant'' ar Fôr Udd ac wedyn y ''Hydra'' ar Fôr Udd ac ar [[Y Môr Canoldir|Fôr y Canoldir]]. Ym 1803 bu'n feistr yr ''Endymion'' ffrigad fawr, gan ei hwylio ar [[Bae Biskaia|Fae Biskaia]] ac ar arfordiroedd [[Penrhyn Iberia|Iberia]]. Ym 1804 cipiodd pedair llong drysor [[Sbaen|Sbaenaidd]] o [[De America|Dde America]], gan ennill gwerth £26,000 o drysorau.
Ar 7 Mawrth 1805 Priododd Elizabeth Araminta (bu f. 1843), merch Henry Monck o Foure, Swydd Westmeath; bu iddynt bedwar mab a chwe merch.