Charles Paget: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 51:
Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, etholaeth arall a ystyriwyd oedd yn eiddo i'w deulu rhwng 1806 a 1826 gan ildio'r sedd i'w nai yr Arglwydd William Paget. Etholwyd ef dros Fwrdeistrefi Caernarfon am yr ail dro ym 1831. Cafodd ei herio am y sedd yn etholiad cyffredinol 1832, y cyntaf ar ôl pasio'r Deddf Diwygio fawr; wedi cyfri'r pleidleisiau cyhoeddwyd mai ef oedd y buddugol. Heriwyd y canlyniad gan ei wrthwynebydd yn yr etholiad, Owen Jones Ellis Nanney, a honnodd bod nifer o'r rai a fwriodd pleidlais ar gyfer Paget heb hawl gyfreithiol i wneud hynny a bod nifer o etholwyr dilys oedd am bleidleisio iddo ef wedi eu gwrthod. Ar 5 Mawrth 1833 cytunodd pwyllgor seneddol bod y canlyniad yn annilys a bod Nanney wedi ei iawn ethol<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4459543|title=Notitle - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality|date=1833-03-12|accessdate=2016-06-05|publisher=Kenmuir Whitworth Douglas}}</ref>. Apeliodd Paget yn erbyn y penderfyniad ar y sail nad oedd y pwyllgor gwreiddiol wedi rhoi sylw dilys i'w ddadleuon yntau ac ar 16 Mai 1833 penderfynodd pwyllgor newydd mae Paget oedd yr aelod dilys<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3391827|title=HOUSE OF COMMONS - Monmouthshire Merlin|date=1833-05-25|accessdate=2016-06-05|publisher=Charles Hough}}</ref><ref> Cases of Controverted Elections determined in the Eleventh Parliament of the United, gan Sir Alexander James Edmund Cockburn, Sir William Carpenter Rowe Tŷ’r Cyffredin 1833 tud 127-138 a 550-560</ref>.
 
Roedd Paget yn cefnogi'r Whigiaid, mewn enw, yn y Senedd er dim ond ar unwaith ynganodd gair mewn araith yno; araith yn clodfori nofdorch Mallison, a gwan oedd ei record o bleidleisio yn Nhŷ'r Cyffredin, yn bennaf gan ei fod yn gwario gymaint o amser i ffwrdd ar y môr.<ref name=":0" /><h2>

==Anrhydeddau</h2>==
Gwnaed Paget yn Farchog Cadlywydd yn yr Urdd Guelphic Brenhinol (KCH) ym 1819 gan gael ei ddyrchafu yn Farchog y Groes Fawr (GCH)yn yr un urdd ym 1832; fe'i penodwyd ef yn was yr ystafell wely ym 1822.<h2>

==Marwolaeth</h2>==
Bu farw o'r dwymyn felen yn ar fwrdd ei long ym mhorthladd St Thomas, [[Jamaica]], ar 27 Ionawr 1839 yn 61 mlwydd oed, ceir cofeb iddo yn Eglwys Rogate, Sussex.<ref name=":1" />
 
==Cyfeiriadau==