RNA: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Pre-mRNA-1ysv-tubes.png|bawd|Dolen pin-gwallt pre-mRNA. Dangosir y basau (gwyrdd) a'r asgwrn-cefn ribos a ffosffad (glas). Nodwch mai un edafeddyn o RNA yw hwn sy'n plygu yn ôl ar ei hun. ]]
Un o'r [[Asid niwclëig|asidau niwclëig]] yw '''RNA'''<ref>[[http://www.bbc.co.uk/bitesize/higher/biology/cell_biology/rna/revision/1/ Gwefan adolygu'r BBC]], Cyflwyniad.</ref> (Ribonucleic acid (''Saesneg'')). Mae'n chwarae rhannau anhepgorol ym mob [[Cell (bioleg)|cell byw]]. Mae i RNA nifer o swyddogaethau gwahanol. Er enghraifft, mae mRNA (m = ''"messenger"'' (Saes), negesydd) yn rhan o'r broses o drosglwyddo'r wybodaeth a gedwir yn nhrefn niwcleotidau DNA i strwythur [[Protin|protinau]]. [[Protin|Proteinau]] yw'r [[Catalysis|catalyddion]] gweithredol sy'n gyfrifol am yr hyn yr adnabyddir fel bywyd biolegol. Mae tRNA (t = trosi) yn allweddol yn y broses o drosi'r wybodaeth yn nilyniant [[DNA]] (mewn "iaith" niwcleotidau) i ddilyniant [[Asid amino|asidau amino]] proteinau, tra bo rRNA (r = [[ribosom]]) yn chwarae rhannau yn strwythur ac ymddygiad [[Ribosom|ribosomau]] (yr organynnau sy'n adeiladu [[Protin|protinau]]). Yng [[nghanrif 21]], darganfuwyd sawl math o RNA sy'n ymwneud â rheoli gweithgaredd [[Cell (bioleg)|celloedd]]. Disgwylir i sawl un o'r rhain fod yn bwysig mewn [[biotechnoleg]] ac ym [[Meddyginiaeth|meddyginiaethau]]'r dyfodol.