Santes Elen Luyddog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
santes
Llinell 7:
Yn ôl y chwedl, ar ôl Elen yr enwyd y [[ffordd Rufeinig]] [[Sarn Helen]]. Cred rhai ysgolheigion bod yr Elen wreiddiol yn cynrychioli sofraniaeth Ynys Brydain a'i bod hefyd yn dduwies Geltaidd yn wreiddiol. Cymysga'r chwedl ei hun hanes dwy ferch wahanol, sef Elen Luyddog ac Elen ferch Eudaf. Credir mai [[Helena o Gaergystennin|Helena]], mam yr ymerawdwr [[Custennin Fawr]] (306-337) yw sail cymeriad Elen Luyddog. Diau bod elfennau o hanes [[Elen o Gaerdroia]] wedi lliwio dychymyg y [[cyfarwydd]] (chwedleuwr) o Gymro hefyd.
 
==Santes==
Yn yr achau Cymreig nodir [[Sant]] [[Peblig]] ac [[Owain fab Macsen Wledig]] yn feibion Macsen ac Elen.
Mae'n bosibl i'r cymeriad gael ei sefydlu ar berson o gig a gwaed a drigai yng Nghymru ac a roddodd ei henw ar dros 20 o ffynhonnau a nifer o eglwysi gan gynnwys [[Llanelen]] ([[Saesneg|Seisnigiad]]: ''Llanellen'').<ref>[http://www.e-gymraeg.org/enwaucymru/chwilio.aspx Enwau Cymru]</ref> Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r de o'r [[Y Fenni|Fenni]] ar y briffordd A404 sy'n cysylltu'r Fenni a [[Brynbuga]], yng ngogledd-orllewin y sir, a [[Penisa'r Waun|Phenisa'r Waun]], [[Caernarfon]].<ref>[http://www.coflein.gov.uk/en/site/43747/details/ST+HELEN%27S+CHURCH%2C+PENISA%27R+WAUN%3BMISSION+CHURCH%2C+PENIISA%27R+WAUN/ Gwefan Coflein;] adalwyd 16 Mehefin 2016</ref>
 
Ei thad oedd [[Eudaf Hen]]. Fe'i cymysgwyd yn y gorffennol droeon gyda Helen arall: [[Helena o Gaergystennin]]. Yn yr achau Cymreig nodir [[Sant]] [[Peblig]] ac [[Owain fab Macsen Wledig]] yn feibion Macsen ac Elen.
 
==Cyfeiriadau==