Brwydr Llandeilo Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
crynhoi yn y paragraff cyntaf beth oedd y sgor.
Llinell 6:
== Y frwydr ==
Erbyn dechrau Mehefin 1282, roedd Gilbert de Clare wedi arwain ei fyddin i [[Ystrad Tywi]] a sefydlu garsiynau yng nghestyll [[Caerfyrddin]] a [[Castell Dinefwr|Dinefwr]]. Gyda tua 1600 o filwyr traed a thua 100 o farchogion, cipiodd [[Castell Carreg Cennen|Gastell Carreg Cennen]] hefyd. Anrheithwyd y castell brenhinol gan y Saeson.
[[Delwedd:Dinefwr Castle.jpg|bawd|[[Castell Dinefwr]].]]
 
Ond ar yr 16 o Fehefin, wrth ddychwelyd o Garreg Cennen i Ddinefwr, braidd yn anhrefnus mae'n ymddangos, ymosododd y Cymry arnynt yn sydyn. Roedd y rhan hon o Ystrad Tywi yn adnabyddus am ei choedwigoedd brigdew ac mae'n debyg fod y Cymry wedi manteisio ar hynny. Cafwyd lladdfa gwaedlyd. Lladdwyd y milwyr a marchogion Seisnig i gyd bron. Y golled fwyaf oedd lladd mab [[William de Valence]], Iarll 1af Penfro. Ymddengys nad oedd Gilbert de Clare ei hun yn bresennol. Nid oes cofnod o golledion y Cymry ond derbynnir eu bod yn isel.