Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Helyntion Beca"

Ychwanegwyd 1 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB)
Un o achosion amlwg yr helynt oedd y tollbyrth eu hun, a weinyddwyd gan y Cwmnïau Tyrpeg newydd. Roedd rhaid talu tollau i deithio ar hyd y prif-ffyrdd hyn. Roedd ddeuddeg Cwmni yn sir Gaerfyrddin, pedwar yn [[Sir Benfro]], dau yn [[Sir Aberteifi]], dau yn [[Sir Faesyfed]], un yn [[Sir Frycheiniog]] a deuddeg ym [[Morgannwg]]. Roedd nifer uchel y Cwmnïau Tyrpeg yn yr ardal yn golygu bod rhaid i deithwyr talu tollau sawl gwaith (am bob cwmni) i'w gymharu â Lloegr lle nad oedd y fath gor-gystadlu. Roedd rhaid i'r ffermwyr talu tollau wrth yrru'u [[gwartheg]] a theithio yn ôl ac ymlaen i'r marchnad, ac wrth ôl calch fel gwrtaith am y pridd.
 
Nid yr unig rheswm dros yr helyntion oedd y tollbyrth. Roedd tuedd gan werin De-Orllewin Cymru i weinyddu cyfraith eu hun trwy'r traddodiad o'r [[Ceffyl Pren]]. Dyma arfer o siomi yn gyhoeddus aelod o'r gymuned sydd wedi achosi cerydd i'w gymdogion neu gydweithio a'r awdurdodau. Byddai dorf gyda'i wynebau'n ddu (fel wnaeth Merched Beca) yn cario ffigur ceffyl at ddrws y person, neu ffigur yn ei ddynwared (a weithiau llosgwyd), neu hyd yn oed y berson ei hun, gan ei fychanu. Yn olôl yr hanesydd David Williams, "ymestyniad o arfer y Ceffyl Pren" oedd terfysgoedd Beca <ref>'The Rebecca Riots' gan D Williams, tud 56; Gwasg Prifysgol Cymru 1955.</ref>.
 
Roedd rhesymau eraill am yr helyntion yn cynnwys:
2,113

golygiad