Allen Raine: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B categoriau
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
==Bywgraffiad==
Ganed yr awdur yn nhref [[Castell Newydd Emlyn]] yn 1836 yn ferch i Benjamin a Letitia Grace Evans. Roedd ei thad (yn ŵyr i David Davies o Gastellhywel neu ''Dafis Castellhywel'' fel yr adnabyddid ef) yn gyfreithiwr a'i mam yn wyres i'r Parch. Daniel Rowland. Buont yn byw yng Nglandŵr, [[Tresaith]] hyd at 1872.<ref>[http://www.glandwrtresaith.co.uk/History_of_Glandwr_Tresaith.html Gwefan Saesneg yn ymwneud a'r tŷ]</ref> Fe'i danfonwyd i fyw i [[Cheltenham]] a [[Wandsworth]] ac yna i [[Llundain|Lundain]] gyda'i chwaer a dychwelodd yn ôl i Gymru yn 1856. Yn 1872 symudodd Anne yn ôl i Lundain wedi iddi briodi'r banciwr (gyda Banc Smith Payne, Llundain) ac arlunydd<ref>[http://www.artoftheprint.com/artistpages/puddicombe_beynon_ruinsnearrome.htm Enghraifft o waith Beynon.]</ref> [[Beynon Puddicombe]]. Yno y cychwynodd ysgrifennu o dan y llysenw Allen Raine. Cyhoeddodd “A Welsh Singer” yn 1896, ar olôl iddi rannu’r wobr gyntaf am nofel o'r enw ''Ynysoer'' yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1894|Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon]] yn 1894. Dychwelodd y ddau i Dresaith yn 1900 pan drawyd Beynon Puddicombe gyda salwch meddwl. Buont yn byw ym "Mronmôr", [[Tre-saith]], [[Ceredigion]], lle bu farw Beynon ym mis Mai 1906. Bu Anne farw ar 21 Mehefin 1908.
 
Addaswyd tri o'i llyfrau ar gyfer ffilm: ''Torn Sails'' (1915), ''A Welsh Singer'' (1920) a ''By Berwen Banks'' (1920).