Tloty: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q628155
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[File:Workhouse_Nantwich.jpg|bawd|dde|Hen dloty yn Nantwich a adeiladwyd tua 1780]]
Adeilad lle rhoddwyd llety a chyflogaeth i bobl nad oedd yn medru edrych ar olôl eu hunain oedd y '''tloty''' (a alwyd yn '''wyrcws''' hefyd).
 
Daeth y tlotai i fodoloaeth yn sgil [[Deddf y Tlodion 1388]] a oedd yn ceisio mynd i'r afael a'r prinder gweithwyr a ddaeth o achos y [[Pla Du]] yn Lloegr. Roedd y Pla Du wedi atal gweithwyr rhag gallu symud o ardal i ardal yn chwilio am waith, ac o ganlyniad daeth y wladwriaeth yn gyfrifol am gynorthwyo'r tlodion. Ond pan gododd y nifer o bobl diwaith yn ddifrifol oherwydd diwedd y [[Rhyfeloedd Napoleon|Rhyfel Napoleanaidd]] yn 1815, datblygiad technoleg newydd a gafodd wared ar weithwyr amaethyddol a sawl cynhaeaf gwael, roedd angen system newydd er mwyn delio a'r tlodion. Bwriad y Deddf y Tlodion Newydd yn 1834 oedd ceisio lleihau cymorth i bobl a oedd yn gwrthod mynd i'r tloty. Roedd ambell awdurdod wedi gobeithio rhedeg y tlotai fel busneau a oedd yn gwneud elw, trwy gael y gweithwyr i weithio am ddim. Cyflogwyd y rhan fwyaf o'r tlodion er mwyn gwneud swydd fel torri creigiau, malu esgyrn er mwyn creu gwrtaith neu blicio [[ocwm]] gan ddefnyddio hoelen fawr metal.