Ymladd teirw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Talwrn draddodiadol a welir yn [[Sbaen]], [[Portiwgal]], de [[Ffrainc]] ac mewn rhai gwledydd [[America Ladin]] (megis [[Mecsico]], [[Columbia]], [[Feneswela]] a [[Periw|Pheriw]]<ref>[http://www.cas-international.org/es/home/sufrimiento-de-toros-y-caballos/corridas-de-toros/corridas-de-toros-en-latinoamerica/ Corridas de Toros en Latinoamérica<!-- Bot generated title -->]</ref> ydy '''ymladd teirw'''. Yn rhan o'r sioe, ymladda un dyn neu fwy yn erbyn tarw neu deirw mewn maes ymladd teirw. Er ei fod, yn ei hanfod, yn [[chwaraeon gwaed]], caiff ei ystyried fel 'ceflyddyd gain' gan gefnogwyr y talwrn, ac nid fel chwaraeon<ref>Fiske-Harrison, Alexander [http://www.telegraph.co.uk/culture/books/8916880/To-the-Spanish-bullfighting-is-much-more-than-a-sport.html 'To the Spanish bullfighting is much more than a sport'] Daily Telegraph. 25 Tachwedd 2011</ref> am nad oes elfen o gystadleuaeth i'r ornest.
Mae'r ornest ei hun yn cynnwys ''[[torero (ymladdwr teirw)|toreros]]'' proffesiynol (gyda'r torero mwyaf profiadol, sef y [[matador]]) yn lladd y tarw ei hun. Gwna hyn gan ddefnyddio ystod o symudiadau ffurfiol, sydd ag ystyron ac enwau gwahanol, yn unol ag arddull neu ysgol hyfforddiant y matador. Mae agosatrwydd yr ymladdwr teirw at yr anifail yn ei osod mewn perygl o gael ei gornio neu'i ddamsgen arno. Ar ôl i'r tarw gael ei fachu sawl gwaith tu olôl i'w ysgwydd gan y matadors eraill yn yr ymrysonfa, daw'r talwrn i ben gyda'r tarw'n cael ei ladd gydag un hyrddiad terfynol gan gleddyf. Gelwir hyn yr ''estocada''. Ym Mhortiwgal, gelwir y diweddglo y ''pega'', lle mae'r dynion (''forcados'') yn ceisio gafael yng nghyrn y tarw wrth iddo redeg tuag atynt.
 
Mae yna nifer o feysydd ymladd teirw ym [[Penrhyn Iberia|Mhenrhyn Iberia]], Ffrainc ac America Ladin. Y ganolfan fwyaf o'i math yw [[Plaza México]] yng nghanol [[Dinas Mecsico]], sy'n dal 48,000 o bobl,<ref>{{dyf gwe |url=http://www.worldstadiums.com/north_america/countries/mexico/central_mexico.shtml |teitl=www.worldstadiums.com |publisher=www.worldstadiums.com |date= |accessdate=28 Mawrth 2010}}</ref> a'r hynaf yw'r [[Plaza de toros de la Real Maestranza de Caballería de Sevilla|La Maestranza]] yn [[Seville]], Sbaen, lle cynhaliwyd yr ornest ymladd teirw cyntaf yn 1765.<ref>[http://www.realmaestranza.com/PAGINASR/historiapt.htm Plaza de Toros - Institución<!-- Bot generated title -->]</ref>