Cyngor Cymru a'r Gororau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 17:
Y prif reswm pam bod Lee a'i debyg yn gallu ymddwyn mewn modd mor greulon yn ddigerydd oedd bod y cyngor yn bodoli o dan uchelfraint y brenin heb fod iddi unrhyw reolaeth mewn cyfraith statudol. Newidiwyd hynny gan yr [[Y Deddfau Uno 1536 a 1543|Ail Ddeddf Uno (1543)]] pan roddwyd cyfansoddiad statudol i'r cyngor. O dan y ddeddf cyfansoddwyd y cyngor o'r Llywydd yr islywydd ac ugain o aelodau a enwebwyd gan y brenin; bu'r rhain yn cynnwys rhai o esgobion Cymru a'r Gororau, aelodau o'r teulu brenhinol a gŵyr cyfraith Cymru a'r gororau megis Ynadon [[Llys y Sesiwn Fawr]] a gŵyr a hyfforddwyd yn y gyfraith.
 
Doedd y ddeddfwriaeth a rhoddodd cydnabyddiaeth statudol i'r Cyngor dim yn rhestru ei chyfrifoldebau dim ond datgan y dylai'r Llywydd a'r Cyngor ''gwrando a phenderfynu ar yr achosion yr oedd wedi gwrando arnynt hyd yn hyn''. Cafodd hyn ei ddehongli'n eang a dechreuodd y cyngor clywed pob achos, sifil a throseddol a oedd yn cael eu dwyn gan unigolion a oedd yn rhy dlawd i erlyn yn llysoedd Llundain; roedd yn barnu bob achos o lofruddiaeth, ffeloniaeth, morladrad, dryllio, a throseddau oedd yn debygol o darfu ar heddwch. Bu'r cyngor hefyd yn ymchwilio i gyhuddiadau o gam lywodraethu gan swyddogion a rheithfarnau ffug rheithgorau. Roedd i orfodi'r cyfreithiau yn ymwneud a lifrai a chynnal a chadw; i gosbi lledwyr achlust a godinebwyr, ac i ddelio ag anghydfodau ynghylch amgáu tiroedd, gwasanaeth taeog, a chwestiynau maenorol. Roedd yn clywed apeliadau gan y llysoedd cyffredin; ac roedd yn gyfrifol am weinyddu'r ddeddfwriaeth yn delio â chrefydd. Yn ôl yr hanesydd [[John Davies (hanesydd)|John Davies]], ''Cyrychiolai'r Cyngor arbrawf nodedig mewn llywodraeth rhanbarthol yn y cyfnod hwn''<ref>John Davies ''Hanes Cymru'', tud 261 Allen Lane 1990 ISBN 10: 0713990112</ref>. (T 261).
 
Er bod y mwyafrif o'r cynghorwyr yn foneddigion o'r Mers, doedd y siroedd Saesnig ddim yn ôr hoff o gael eu rheoli ar y cyd a Chymru a bu sawl ymgais ganddynt i gael eu rhyddhau o'i ddylanwad. Llwyddodd Dinas Bryste i eithrio o ddylanwad y Cyngor ym 1562 a Swydd Caer ym 1569, methodd cais Caerwrangon i gael ei rhyddhau ym 1576.