Raja: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[File:Jagannatha naya.jpg|300px370px|thumb|Eilunod 'bhudevi' a 'shridevi'.]]
Gŵyl pedwar niwrnod ydy '''Raja Parba''' (''Raja Parba'', ''Mithuna Sankrant'' neu ''Mithuna Sankranti'' (Oriya: '''''ରଜ ପର୍ବ'''''}}), ble mae'r ail ddiwrnod yn dynodi dechrau'r mis (solar) Mithuna, sef 'mis y glaw'. Yn [[amaeth]]yddol, felly, mae'n ddechrau blwyddyn newydd ar hyd a lled [[Orissa]] (neu ''Odisha''), [[India]] ac yn ddelweddol, mae'n ymwneud â diferion a gwlybaniaeth yn llygad yr haul a chawodydd cyntaf y [[monsŵn]], yng nghanol [[Gorffennaf]], gan baratoi'r pridd ar gyfer blwyddyn newydd o hau a medi.<ref>http://www.nuaodisha.com/ContentDetails.aspx?cid=3550&todo=events</ref>
 
[[File:Jagannatha naya.jpg|300px|thumb|Eilunod 'bhudevi' a 'shridevi'.]]
Credir fod y Fam Ddaear neu wraig dwyfol Arglwydd Vishnu yn cychwyn ar ei [[gwaedlif]] am dridiau cynta'r ŵyl. Baddon seremoniol yw'r 4ydd diwrnod a elwir yn ''Vasumati gadhua''. Daw'r term 'Raja' o 'Rajaswala' sy'n golygu 'merch yn ei misglwyf'. Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd yr ŵyl yn canolbwytio ar addoli Bhudevi, gwraig yr Arglwydd Jagannath, ac mae elfen o hyn yn dal i fodoli heddiw.
[[File:Raja Doli khela Odia festival.jpg|bawd|chwith|Merched mewn gwisgoedd traddodiadol yn dathlu'r ŵyl.]]