Pab Alecsander VI: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
Llinell 10:
| man geni= [[Xàtiva]], Teyrnas [[Valencia]]
}}
[[Pab]] oedd '''Alecsander VI''' (ganed '''Roderic Llançol i de Borja''', [[1 Ionawr]] [[1431]]) a deyrnasodd o 11 Awst 1492 hyd at ei farwolaeth ar 18 Awst 1503. Fe'i ystyrir yn un o babau mwyaf dadleuol y [[Dadeni Dysg|Dadeni]] oherwydd ei hoffder o nepotiaeth a'i anniweirdeb rhywiol. Ef oedd yr ail bab o'r teulu Borgia ar ôl ei ewythr [[Pab Calistus III|Calistus III]]; daeth enw'r teulu yn'n ddrwg-enwog am lygredigaeth a thrais yn ystod teyrnasiad Alecsander. Ymhlith ei blant anghyfreithlon oeddroedd Cesare Borgia, ag ysbrydolodd llyfr [[Niccolò Machiavelli]] ''[[Il Principe]]'' ("Y Tywysog"), a Lucrezia Borgia.
 
==Bywyd==
[[File:Alexander - Bolla "Desiderando nui", dopo il 18 settembre 1499 - 2951587.tif|thumb|''Desiderando nui'', 1499]]
 
Ganed Roderic Llançol i de Borja yn [[Xàtiva]], ger [[Valencia]] yn [[SbaenCatalwnia]] fodern; mae'r cyfenw'n addasiad o ffurf Eidaleg ar yr enw ydy Borgia. Roedd ei ewythr ar ochr ei fam, Alonso de Borja, yn esgob Valencia a gafodd ei ddyrchafu yn hwyrach i statws [[cardinal]], ac fe roddodd ef lwyth o fywoliaethau eglwysig i'w nai.<ref name="Campbell">{{cite book|last=Campbell|first=Gordon|title=The Oxford Dictionary of the Renaissance|location=Rhydychen ac Efrog Newydd|publisher=Gwasg Prifysgol Rhydychen|pages=130–1}}</ref> Ym 1456, ar ôl ei astudiaethau ym mhrifysgol [[Bologna]], crëwyd Rodrigo Borgia yn gardinal gan ei ewythr, a oedd bellach wedi'i ethol yn Bab ac yn dwyn yr enw [[Calistus III]]. Ym 1457 penodwyd y Cardinal Borgia yn Is-ganghellor y [[Eglwys Gatholig Rufeinig|Sedd Sanctaidd]], swydd a oedd yn ei wneud yn un o'r cardinaliaid cyfoethocaf.<ref name="Kelly">{{cite book|last=Kelly|first=J. N. D|title=The Oxford Dictionary of Popes|location=Rhydychen ac Efrog Newydd|publisher=Gwasg Prifysgol Rhydychen|pages=252–4}}</ref> Parhaodd i ddal y swydd hyn drwy deyrnasiadau'r pedwar pab nesaf.<ref name="Campbell"/> Cenhedlodd y cardinal bedwar o blant gyda'i feistres Vannozza dei Cattanei, a oedd o deulu bonedd Rufeinig; eu henwau oedd Giovanni (Juan), Cesare, Lucrezia a Goffredo (Jofré).<ref>{{dyf gwe|url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/14138/Alexander_VI|cyfenw=Murphy|enwcyntaf=Francis Xavier|teitl=Alexander VI|gwaith=[[Encyclopædia Britannica]]|dyddiadcyrchiad=6 Ebrill 2014}}</ref>
 
[[Delwedd:C o a Alessandro VI.svg|bawd|chwith|150px|Arfbais Alecsander VI]]