Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jo Cox"

Ychwanegwyd 1 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
Tacluso iaith
(Tacluso iaith)
(Tacluso iaith)
Enwebwyd Cox gan y [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] i ymladd sedd Batley and Spen adawyd gan Mike Wood yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015|etholiad cyffredinol 2015]]. Dewiswyd fel ymgeisydd ar gyfer y sedd drwy restr fer o ferched yn unig. Sedd ddiogel i Lafur ydy etholaeth Batley and Spen fel arfer, ac enillodd Cox y sedd gyda 43.2% o'r bleidlais, gan gynyddu mwyafrif Llafur i 6,051.
 
Gwnaeth Cox ei araithharaith gyntaf yn [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Nhŷ'r Cyffredin]] ar 3 Mehefin 2015, gan ei ddefnyddio i ddathlu amrywiaeth ethnig ei hetholaeth, tra'n tynnu sylw at yr heriau economaidd sy'n wynebu'r gymuned, ac yn annog y llywodraeth i ailfeddwl ei agwedd tuag at adfywio economaidd. Roedd yn un o 36 ASau Llafur i enwebu [[Jeremy Corbyn]] fel ymgeisydd yn etholiad arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn 2015, ond dywedodd ar y pryd ei bod wedi gwneud hynny er mwyn ei roi ar y rhestr ac annog trafodaeth eang. Yn yr etholiad cyntaf pleidleisiodd dros Liz Kendall, a cyhoeddodd ar 6 Mai 2016 ar ôl yr etholiadau lleol yr oedd hi a chyd-AS Neil Coyle yn difaru eu bod wedi enwebu Corbyn.
 
Roedd gwrthdaro [[Syria]] yn un o brif faterion ymgyrchu Cox. Ym mis Hydref 2015, cyd-ysgrifennodd, gyda'r AS Ceidwadol Andrew Mitchell, erthygl yn The Observer, oedd yn dadlau y gallai luoedd milwrol y DU helpu i gyflawni ddatrysiad teg i'r gwrthdaro, gan gynnwys creu hafanau diogel i sifiliaid y tu mewn i Syria. Yn ystod y mis hwnnw, lansiodd Cox y grŵp Seneddol Hollbleidiol "Cyfeillion Syria", a daeth yn gadeirydd y grŵp. Yn y bleidlais a ddilynodd i gymeradwyo ymyrraeth filwrol y DU yn erbyn ISIL yn Syria, ymatalodd Cox (un o bum AS Llafur i wneud hynny), gan nad oedd yn ystyried yr ymyrraeth i fod yn rhan o strategaeth gynhwysfawr effeithiol i fynd i'r afael â gwrthdaro Syria gan gynnwys ymdrin â Llywydd Bashar al-Assad. Ysgrifennodd Andrew Grice o The Independent y "dadleuodd hi yn gryf y dylai Llywodraeth y DU fod yn gwneud mwy i helpu'r dioddefwyr ac i ddefnyddio ei ddylanwad tramor er mwyn rhoi gorau ar wrthdaro Syria".
3,441

golygiad