Celf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
diffiniad
Llinell 2:
Mae maes '''celfyddyd''' (a dalfyrir weithiau fel '''celf''') yn cynnwys [[campwaith|campweithiau]] gweledol o ganlyniad i fedr dynol, sef [[paentio]], [[darlunio]], [[cerfluniaeth]], a [[pensaernïaeth|phensaernïaeth]]. Weithiau ehangir y term fel '''y celfyddydau''' sy'n cynnwys yr holl bethau o dan sgiliau bodau dynol, fel [[llenyddiaeth]] ([[rhyddiaith]], [[barddoniaeth]] ac ati), [[cerddoriaeth]] a [[dawns]], y [[theatr]], a [[ffotograffiaeth]]. Mae [[estheteg]] yn faes [[Athroniaeth|athronyddol]] sy'n ceisio ateb cwestiynau megis "beth yw celf?".
 
== Diffiniad ==
{{Commons|Art}}
Nid hawdd mae diffinio unrhyw un agwedd o gelfyddyd. Dichon gellir rhannu ymagweddau tuag at gelfyddyd yn ddau gategori: ei heffaith esthetig, a'i hystyr draethiadol (sef ei chyd-destun a bwriad yr artist). Ymhlith yr ymgeision cyffredinol i ddiffinio'r gair mae sôn am adlewyrchiad o ddawn, medr a gallu creadigol yr artist, cyd-destun yr unigol a'r diwylliant, a'r celfyddydwaith yn ffynhonnell harddwch, yn her ddeallusol, yn arwydd o newid a datblygiad, ac yn ganfyddiad dadansoddol.
{{eginyn celfyddyd}}
 
Mae dehongliadau athronyddol o natur celfyddyd yn dyddio'n ôl i'r [[Henfyd]]. Creu delw neu ddynwarediad yw pwrpas celfyddyd yn ôl [[Platon]], tra'r oedd [[Aristoteles]] yn canolbwyntio ar ffurf y gwaith wrth ei ystyried. Pwysleisiodd athronwyr [[yr Oleuedigaeth]], megis [[Kant]] a [[Hegel]], y gwrthrych, gan weld sgwrs rhwng yr artist a'r arsyllydd. Mynegiant a phroses y grefft yw celfyddyd i nifer o arlunwyr: y daith o olygfa neu ddychmyg i greadigaeth oedd arfer [[Kokoschka]] a [[Matisse]]. Gwelir celfyddyd o safbwynt esblygiadol gan [[anthropoleg]]wyr modern sy'n ei hastudio fel gweithgaredd dynol, gan geisio llunio diffiniad diduedd ohonni.
 
Datblygodd ddiffiniadau llaw yn llaw â hanes gwyllt celfyddyd yn yr 20fed ganrif. Heriodd [[haniaeth]] y syniadau traddodiadol am ffurf a chelfyddyd ffiguraidd. Daeth gysyniadau'r gwaith a dymuniadau'r artist yn fwy pwysig na'r wedd orffenedig. Nododd y hanesydd a beirniad Leo Steinberg taw pryfociad neu heriad yw celfyddyd yn ogystal â chreadigaeth, gan ddiffinio celfyddyd drwy ein hymateb iddi.
 
[[Categori:Celfyddydau| ]]