Dawns: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gweler hefyd: Man olygu using AWB
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Mae '''dawns''' neu '''dawnsio''' (o'r [[Ffrangeg]] ''danser'') yn gelfyddyd, ymarfer corff neu ddifyrwaith sydd, yn ei hanfod, yn gyfres o gamau ac ysgogiadau corfforol rhythmig gan unigolyn, parneriaid neu grŵp o bobl, fel rheol i gyfeiliant [[cerddoriaeth]]. Mae'n cymryd sawl ffurf ac mae ei gwreiddiau yn hynafol iawn gyda pherthynas agos â hanes cerddoriaeth a defodau crefyddol; gwelir olion o hynny yn y [[dawns werin|dawnsiau gwerin]] traddodiadol.
 
Mae'r diffiniad o beth yn union yw dawns yn dibynnu ar gyfyngiadau cymdeithasol, diwylliannol, artistig a moesol. Mae'n amrywio o symudiadau gweithredol (megis [[dawnsio gwerin]]) i dechnegau meistrolgar fel ''[[ballet]]''. Gellir cymryd rhan mewn dawns neu ei berfformio ar gyfer cynulleidfa. Gall fod yn seremonïol, cystadleuol neu'n rywiol hefyd. Gall dawns ymgorffori neu fynegi syniadau, emosiynnauemosiynau neu adrodd stori.
 
Mae dawns wedi esblygu i nifer o ddulliau gwahanol. Mae breg-ddawnsio yn gysylltiedig â diwylliant [[hip hop]]. Mae dawns Affricanaidd yn ddeongliadol. Dulliau clasurol o ddawns yw ballet, ''ballroom'', y waltz a'r tango tra bod Sgwâr a'r Llithriad Trydanol yn fathau o gamau dawns.