Llefarydd Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Newydd
Llinell 1:
'''Llefarydd Tŷ'r Cyffredin''' yw swyddog llywyddu [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Tŷ'r Cyffredin]], siambr isaf [[Senedd y Deyrnas Unedig]]. Etholir y Llefarydd gan [[Aelodau Seneddol]], o blith ei gilydd.
 
Y Llefarydd sy'n cadeirio dadleuon y Tŷ, gan benderfynnu pa aelod sy'n cael siarad. Ef hefyd sy'n gyfrifol am gadw trefn yn ystod y ddadl, gan gosbi unrhyw aelod sy'n torri rheolau'r Tŷ. Yn wahanol i Lefarwyr y rhan fwyaf o wledydd mae niwtraliaeth yn hanfodol yn y swydd, a disgwylir iddo ef neu hi fod yn ddiduedd ym mhob achos. Pan gymer y swydd mae'r Llefarydd yn torri pob cysylltiad â'i blaid ac nid yw'n cymryd rhan yn y ddadl, ar wahân i gadw trefn a dewis y siaradwr nesaf. Pan geir pleidlais gyfartal, gall fwrw pleidlais er mwyn i'r naill ochr neu'r llall ennill y ddadl. Ond ceir rheol am hyn (Rheol y Llefarydd Denison) a disgwylir iddo ef neu hi gadw at y traddodiad hwn. Er enghraifft, mae'n rhaid iddo bleidleisio i symud deddfau drwy'r Tŷ mor gyflym ac sy'n bosibl, a phan geir pleidlais o ddiffyg ffydd, mae'n rhid i'r Llefarydd bleidleisio o blaid y person.
 
Mae'r Llefarydd hefyd yn parhau'n Aelod Seneddol yn ystod y cyfnod hwn; mae hefyd yn derbyn llety o fewn Tŷ'r Cyffredin. Disgwylir i'r person hefyd wneud rhai swyddi gweinyddol a seremoniol.<ref>{{cite news | url=http://news.bbc.co.uk/2/hi/uk_news/politics/8112582.stm | title=What does the Speaker actually do? | publisher=BBC News | accessdate=23 Mehefin 2009 | date=22 Mehefin 2009}}</ref>
{{eginyn gwleidyddiaeth}}
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Tŷ'r Cyffredin]]