Rym: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
YiFeiBot (sgwrs | cyfraniadau) |
ehangu |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Appleton Estate Jamaica Rum-with glass.jpg|bawd|Potel a gwydraid o
[[Gwirod]] a
Tri cham sydd i'r broses o wneud rym: [[eplesu]]'r siwgr, [[distyllu]]'r gwaddodion eplesedig, ac aeddfedu. Gwneir y mwyafrif o rymiau o [[triagl|driagl]], sy'n cynnwys cymaint â 5 y cant siwgr. Sgîl-gynnyrch o'r broses gynhyrchu siwgr yw triagl, y gwaddod sydd ar ôl wrth grisialu siwgr o sudd y [[cansen siwgr|gansen]]. Lle bo diffyg diwydiant siwgr, defnyddir sudd y gansen siwgr yn hytrach na thriagl. Distyllir y triagl neu'r sudd eplesedig i gynhyrchu rym, ac mae'r ddiod yn cadw mwy o flas ei ddeunydd crai na'r mwyafrif o wirodydd eraill.<ref name=EB/> Hylif di-liw yw'r ddiod ddistyll naturiol, ond fe'i droir yn wahanol arlliwiau o frown drwy ychwanegu [[caramel]] a'i gadw mewn [[casgen]]ni pren.<ref name=Columbia/> Mae ganddi [[alcohol yn ôl cyfaint|gynnwys alcohol]] o 35–60%.<ref name=FN>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.encyclopedia.com/topic/rum.aspx#3 |teitl=rum |gwaith=A Dictionary of Food and Nutrition |cyhoeddwr=Encyclopedia.com |dyddiad=2005 |awdur=David A. Bender |dyddiadcyrchiad=28 Mehefin 2016 }}</ref> Gwneir gwirod eilradd o'r enw [[taffia]] o driagl neu waddodion siwgr amhur, ond ni ystyrir y ddiod hon yn wir rym. Pennir blas y rym gan y math o [[burum|furum]] a ddefnyddir i eplesu, y dull distyllu, amgylchiadau'r broses aeddfedu, a'r rysáit gymysgu.<ref name=EB/>
Cynhyrchir rym mewn nifer o wledydd [[trofannau|trofannol]], yn bennaf yn [[y Caribî]], gan gynnwys [[Ciwba]], [[Jamaica]], [[Barbados]], [[Trinidad a Thobago]], a [[Puerto Rico]], ond hefyd [[Unol Daleithiau America]], [[Brasil]], [[Madagasgar]], ac [[Indonesia]]. Rhennir yn rymiau cryf neu dywyll, sy'n ddiod gadarn; a rhymiau ysgafn neu wyn, a chanddynt flas sych. Daw rymiau ysgafn o ynysoedd [[Sbaeneg]] y Caribî, megis Ciwba a Puerto Rico, ac wrth deithio i'r de mae'r rym yn dywyllach ei lliw ac yn fwy cadarn ei flas. Jamaica sydd yn meddu ar yr enw gorau am wneud rym tywyll. Modd arall o ddosbarthu rymiau yw'r tri prif gategori: Ciwba, Jamaica, ac India'r Dwyrain (hynny yw, Indonesia); a mathau sy'n tarddu o wledydd eraill, gan gynnwys ''aguardiente'' ([[Sbaen]], [[Portiwgal]], a [[De America]]), ''cachaca'' (Brasil), gwirod y gansen ([[De Affrica]]), a rym Demerara ([[Gaiana]]).<ref name=FN/>
Yfir [[diod blaen|rym ar ei ben ei hun]] yn y gwledydd sy'n ei gynhyrchu. Fe'i ddefnyddir mewn [[diod gymysg|diodydd cymysg]] mewn ardaloedd eraill: rhoddir rym ysgafn gan amlaf mewn [[coctel]]s yr haf megis y ''[[daiquiri]]'' a'r ''[[Cuba libre]]'', tra bo [[diod hir|diodydd hir]], er enghraifft y Rum Collins, yn cynnwys rym tywyll. Yn hanesyddol cafodd rym Americanaidd ei gymysgu gyda [[triagl strapddu|thriagl strapddu]] a'i alw'n ''blackstrap'', neu ei gymysgu gyda [[seidr]] i wneud diod ''stonewall''.<ref name=EB/> Gwneir diodydd poeth o rym tywyll, megis [[grog]], sy'n boblogaidd mewn gwledydd oer megis Prydain.<ref name=Columbia>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.encyclopedia.com/topic/rum.aspx#1 |teitl=rum |gwaith=The Columbia Encyclopedia |cyhoeddwr=Encyclopedia.com |dyddiad=2016 |dyddiadcyrchiad=28 Mehefin 2016 }}</ref> Cynhwysir mewn [[saws]]iau melys ac ambell [[pwdin]], er enghraifft [[teisen rym]], ac hefyd ei ddefnyddio i flasu [[tybaco]].<ref name=EB/>
== Hanes==
Daw o [[India'r Gorllewin]], a cheir y cofnod cynharaf o'r ddiod ym 1650. Roedd rym yn un o brif nwyddau'r [[masnach gaethweision yr Iwerydd|fasnach drionglog]] rhwng yr Hen Fyd a'r Byd Newydd: cafodd caethweision Affricanaidd eu cyfnewid am siwgr a thriagl yn India'r Gorllewin; troid y cynhyrchion siwgr yn rym yn [[Lloegr Newydd]]; a chafodd y rym ei cyfnewid â'r Affricanwyr am ragor o gaethweision. Derbynodd morwyr [[y Llynges Frenhinol]] ddogn o rym o'r 18fed ganrif hyd 1970.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/512641/rum |teitl=rum |dyddiadcyrchiad=28 Mehefin 2016 }}</ref> Rym yw hoff ddiod y ddelwedd ystrydebol o fôr-ladron y Caribî.
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
== Darllen pellach ==
* Ian Williams. ''Rum: A Social and Sociable History of the Real Spirit of 1776'' (Efrog Newydd, Nation, 2005).
[[Categori:Bwyd a diod yn y Caribî]]
[[Categori:Gwirodydd]]
[[Categori:Siwgr]]
|