Dan Aykroyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 15:
 
== Bywyd ==
Ganwyd a magwyd Aykroyd yn Ottawa, Ontario, Canada yn fab i Peter Hugh Aykroyd, peiriannydd sifil, a Lorraine Hélène (yn gynt Gougeon) oedd yn ysgrifenyddes. Daw ei fam o linach Ganadaidd Ffrengig, a'i dad o linach Seisnig, Gwyddelig, Albanaidd, Iseldiraidd, a Ffrengig. Mae ei frawd Peter hefyd yn actor comedi. Mynychodd ysgolion uwchradd St. Pius X a St. Patrick's cyn mynd ymlaen i astudio troseddeg a chymdeithaseg ym Mhrifysgol Carleton. Ni chwblhaodd ei radd.
 
Mae Aykroyd yn ddinesydd parhaol yn yr Unol Daleithiau gyda dinasyddiaeth Gandaidd. Bu yn ddyweddïedig i'r actores ''[[Star Wars]]'' [[Carrie Fisher]] yn 1980. Priododd yr actores Donna Dixon yn 1983 ac mae ganddynt dri o blant, Danielle, Stella and Belle. Mae Aykroyd wedi disgrifio ei brofiadau gyda syndromau Tourette ac Asperger fel plentyn, er nad yw wedi derbyn diagnosis. Yr oedd yn arfer bod yn heddwas wrth gefn yn Harahan, Louisiana. Ystyria Aykroyd ei hun fel ysbrydegydd, sydd hefyd â diddordeb mewn sawl elfen o'r paranormal. <ref name="autogenerated1">{{cite news| title=Psychic News| last=Aykroyd| first=Dan |work=''[[Psychic News]]'' Issue #4001| date=April 18, 2009}}</ref>