Dan Aykroyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 24:
Tra'n gweithio ar ''Saturday Night Live'' yn 1976, perfformiodd sgetsh gerddorol gyda John Belushi a fyddai'n dechrau'r band The Blues Brothers. Daeth y band yn fwy amlwg wedi ''The Blues Brothers'' yn 1980, ffilm a gyd-ysgrifenwyd gan Aykroyd. Yr oedd y ddau'n ffrindiau mawr, ac y mae Aykroyd wedi sôn am y tristwch a deimlodd pan fu Belushi farw. Mae'r band yn parhau hyd heddiw gyda Aykyroyd yn ymddangos o bryd i'w gilydd.
 
Un o lwyddiannau mwyaf Aykroyd ers gadael ''Saturday Night Live'' yw'r ffilmiau ''[[Ghostbusters]]'' (1984) a ''Ghostbusters II'' (1989). Yn ogystal â serennu yn y ffimliau fel Raymond "Ray" Stantz, yr oedd Aykroyd, ynghyd â'i gyd-seren [[Harold Ramis]] yn gyfrifol am ysgrifennu'r sgriptsgriptiau. Ysbrydolwyd y sgript gan ei ddiddordeb yn y maes paraseicoleg. Ymddangosa Aykroyd yn ailwampaid ''[[Ghostbusters (ffilm 2016)|Ghostbusters]]'' yn 2016 mewn rôl gameo. Mae hefyd yn gynhyrchydd ar y ffilm.
 
Yn ogystal â rhanrhain, mae Aykroyd wedi serennu mewn nifer o ffilmiau eraill, gan gynnwys ''1941'' (1979), ''Neighbors'' (1981), ''Trading Places'' (1983) gydag [[Eddie Murphy]] a Jamie Lee Curtis, ''Spies Likes Us'' (1985), ''Dragnet'' (1987) gyda [[Tom Hanks]], ''Coneheads'' (1993), ''Exit to Eden'' (1994), ''Tommy Boy'' (1995), ''Getting Away with Murder'' (1996), ''Grosse Pointe'' (1997), ''Blues Brothers 2000'' (1998), ''The Curse of the Jade Scorpion'' (2001), [[Pearl Harbor (ffilm)|''Pearl Harbor'']] (2001), a ''50 First Dates'' (2004).
 
Mae Aykroyd hefyd yn entrepreneur, sefydlodd y cwmni canolfannau cerddoriaeth House of Blues yn 1992, a'r brand fodca Crystal Head Vodka yn 2007.
 
==Cyfeiriadau==