Dan Aykroyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 22:
Daeth Aykroyd i amlygrwydd gyntaf fel aelod o gast y rhaglen gomedi Americanaidd ''Saturday Night Live'' rhwng 1975 a 1979. Ers iddo adael y rhaglen y mae wedi dychwelyd fel gwestai nifer o weithiau.
 
Tra'n gweithio ar ''Saturday Night Live'' yn 1976, perfformiodd sgetsh gerddorol gyda John Belushi a fyddai'n dechrau'r band The Blues Brothers.<ref>{{cite web |url=http://snltranscripts.jt.org/75/75j.phtml |title=SNL Transcripts: Buck Henry: 01/17/76 |publisher=Snltranscripts.jt.org |date=1976-01-17 |accessdate=2013-04-24}}</ref> Daeth y band yn fwy amlwg wedi ''The Blues Brothers'' yn 1980, ffilm a gyd-ysgrifenwyd gan Aykroyd. Yr oedd y ddau'n ffrindiau mawr, ac y mae Aykroyd wedi sôn am y tristwch a deimlodd pan fu Belushi farw. Mae'r band yn parhau hyd heddiw gyda Aykyroyd yn ymddangos o bryd i'w gilydd.
 
Un o lwyddiannau mwyaf Aykroyd ers gadael ''Saturday Night Live'' yw'r ffilmiau ''[[Ghostbusters]]'' (1984) a ''Ghostbusters II'' (1989).<ref>{{cite news|title= Ghostly Movie|work= The Los Angeles Times|date=May 17, 1987|url= http://articles.latimes.com/1987-05-17/entertainment/ca-380_1_david-puttnam|accessdate=November 8, 2010|first=Leonard|last=Klady}}</ref> Yn ogystal â serennu yn y ffimliau fel Raymond "Ray" Stantz, yr oedd Aykroyd, ynghyd â'i gyd-seren [[Harold Ramis]] yn gyfrifol am ysgrifennu'r sgriptiau. Ysbrydolwyd y sgript gan ei ddiddordeb yn y maes paraseicoleg. Ymddangosa Aykroyd yn ailwampaid ''[[Ghostbusters (ffilm 2016)|Ghostbusters]]'' yn 2016 mewn rôl gameo. Mae hefyd yn gynhyrchydd ar y ffilm.<ref>{{cite web|author= |url=http://deadline.com/2015/03/ghostbusters-channing-tatum-joe-and-anthony-russo-drew-pearce-ivan-reitman-dan-aykroyd-1201388917/ |title=Sony Plans New ‘Ghostbusters’ Film With Russo Brothers, Channing Tatum & ‘IM3′ Scribe Drew Pearce|publisher=Deadline |date=March 9, 2015 |accessdate=March 9, 2014}}</ref><ref>{{cite web|author= |url=http://www.fangoria.com/new/ghostbusters-expanding-franchise/ |title=Reitman, Aykroyd Team For ‘Ghostcorp'; Expanding "GHOSTBUSTERS" Franchise|publisher=Fangoria|date=March 9, 2015 |accessdate=March 9, 2015}}</ref>