John S. Davies (cemegydd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Llywelyn2000 y dudalen John S Davies (cemegydd) i John S. Davies (cemegydd): atalnod llawn
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B linc
Llinell 7:
Ymunodd ag Adran Gemeg [[Prifysgol Abertawe]] yn 1964<ref name=":1">http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/3236/desc/marw-dr-john-davies/</ref>, cyn gorffen yno fel Uwch-ddarlithydd yn 2007<ref>http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/19197038</ref>. Yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol, bu John Davies yn Ddeon y Gyfadran Wyddoniaeth, ac yn aelod ar Gyngor y Gymdeithas Gemegol Frenhinol. John Davies oedd ysgrifennydd Cymdeithas Peptid a Phrotein Ewrop<ref>http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/212879-y-dr-john-s-davies-wedi-marw</ref>.
 
Cyfrannodd yn rheolaidd i gyhoeddiadau gwyddonol yn y Gymraeg (megis [[Y Gwyddonydd]], [[Delta]] ac Atom) dros genhedlaeth gyfan. Bu'n feirniad Gystadleuaeth Gwyddonwyr Ifanc y Flwyddyn sawl tro. Enillodd brif wobr Erthygl Gwyddoniaeth yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2003|Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau]] ([[2015]]). Derbyniodd [[Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol|Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg]] [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012|Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg]] ([[2012]]) am ei wasanaeth i Wyddoniaeth a Thechnoleg yn y Gymraeg.
 
Bu'n aelod o fwrdd golygyddol cylchgronau'r [[Y Gwyddonydd|Gwyddonydd]], [[Delta]], Atom a [[Gwerddon (cylchgrawn)|Gwerddon]] ac yn gadeirydd ac aelod gweithgar o bwyllgor rheoli'r Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol; yn ystod y cyfnod sefydlwyd adran Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n gadeirydd yr adran honno am flynyddoedd.