Walter Davies (Gwallter Mechain): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →Gwaith llenyddol: teipio |
ychwanegu mymryn a gwiro'r dechrau |
||
Llinell 2:
==Bywgraffiad==
Ganwyd Walter Davies ym mhlwyf [[Llanfechain]] yn yr hen [[Sir Drefaldwyn]] (gogledd [[Powys]])
Aeth i [[Prifysgol Rhydychen|Brifysgol Rhydychen]] yn nechrau [[1792]] a graddiodd gyda BA yn hydref [[1795]]. Ar ôl cyfnod byr yn is-geidwad [[Amgueddfa'r Ashmolean]], cafodd ei urddo'n ddiacon yn [[Llanelwy]] ([[1795]]) ac yna'n offeiriad yn [[1796]]. Yn [[1799]] priododd Mary, gweddw Rhys Pryce o [[Meifod|Feifod]]; cawsant bedwar o blant. Aeth i [[Coleg y Drindod, Caergrawnt|Goleg y Drindod, Caergrawnt]] lle enillodd ei radd MA yn [[1803]].
Cafodd bersoniaeth [[Llanwyddelan]] yn 1803 ac yna aeth yn ficer ym mhwlyf [[Manafon]], [[Sir Drefaldwyn]], ar [[7 Gorffennaf]] [[1807]], lle arosodd am 30 mlynedd. Yn ogystal â chyflawni'r rhan fwyaf o'i waith llenyddol tra yno, gwnaeth ddau arolwg pwysig o [[amaethyddiaeth]] yng Nghymru ar ran y llywodraeth (cyheoddwyd 1810, 1814). Cynorthwyodd [[Samuel Lewis]] i baratoi ei ''Topographical Dictionary of Wales'' enwog (cyhoeddwyd 1833). Symudodd i blwyf [[Llanrhaeadr-ym-Mochnant]] ar y [[18 Tachwedd]] [[1837]]. Bu farw ym mhersondy Llanrhaeadr ar 5 Rhagfyr, 1849 a chafodd ei gladdu ym mynwent y plwyf.
Llinell 14 ⟶ 16:
==Ffynonellau==
{{cyfeiriadau}}
==Llyfryddiaeth==
===Gwaith Gwallter Mechain===
*D. Silvan Evans (gol.), ''Gwaith Gwallter Mechain'', 2 gyfrol (Caerfyrddin, 1868)
===Cefndir===
*[[Glenda Carr]], ''William Owen Pughe'' (Caerdydd, 1983)
|