Tectoneg platiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B s
dileu dolenni coch sydd wedi bod yno, heb neb wedi creu'r ddalen
Llinell 3:
[[Delwedd:Farallon Plate.jpg|thumb|300px|right|Gweddillion Plat Farallon, yn ddwfn oddi fewn i fantell y Ddaear.]]
[[Delwedd:Tectonicplates Serret.png|bawd|300px|Platiau tectonig (wynebau wedi'u cadw)]]
[[Damcaniaeth wyddonol|Damcaniaeth]] [[daeareg|ddaearegol]] sy'n esbonio symudiadau mawr o fewn [[lithosffer]] [[y Ddaear]] yw '''tectoneg platiau''' (cyfaddasiad o'r gair Saesneg ''tectonics'',<ref>{{dyf GPC |gair=tectoneg |dyddiadcyrchiad=26 Tachwedd 2015 }}</ref> a ddaw o'r [[Lladin Diweddar]] ''tectonicus'', o'r [[Groeg (iaith)|Roeg]] τεκτονικός sef "yn ymwneud ag adeiladu").{{sfn|Little|Fowler|Coulson|1990}} Adeilada'r model damcaniaethol hwn ar gysyniad [[symudiad cyfandirol]] a ddatblygodd ar ddechrau'r 20fed ganrif. Derbynodd y gymuned [[gwyddorau daear]] y ddamcaniaeth yn sgil dilysu'r ffenomen [[ymlediad gwely'r môr]] yn y 1950au a'r 1960au.
 
Rhennir y lithosffer, sef plisgyn caled mwyaf allanol y blaned (y [[cramen y Ddaear|gramen]] a'r [[mantell y Ddaear|fantell uwch]]), yn [[rhestr platiau tectonig|blatiau tectonig]]. Mae'n cynnwys saith neu wyth o blatiau mawr (yn dibynnu ar y diffiniad) a nifer o blatiau bychain. Ceir tri math o ffin yn y fan lle mae'r platiau'n cwrdd, a bennir gan eu symudiad cymharol: [[ffin gydgyfeiriol]], [[ffin dargyfeiriol]], a [[ffawt trawsffurf]]. Achosir [[daeargryn]]feydd, [[llosgfynydd]]oedd, ffurfiad [[mynydd]]oedd, a ffurfiad [[ffos gefnforol|ffosydd cefnforol]] ar hyd ffiniau'r platiau. Mae symudiad lletraws cymharol y platiau'n amrywio o sero i 100&nbsp;mm bob blwyddyn.{{sfn|Read|Watson|1975}}