Ffrisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rei Momo (sgwrs | cyfraniadau)
Dadwneud y golygiad 1692144 gan Rei Momo (Sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 7:
=== Gorllewin Ffrisia ===
[[Delwedd:Frisian flag.svg|bawd|Baner Gorllewin Ffrisia, a fabwysiadwyd yn swyddogol gan dalaith Fryslân ym 1957. Mae ganddi bedwar stribed lletraws glas ar gefndir gwyn gyda [[lili'r dŵr felen|lilïau dŵr]] coch (''pompeblêd''). Mae symbol y lili dŵr yn dyddio'n ôl i'r 11eg ganrif, a defnyddiwyd y faner hon gan fudiadau Ffrisiaidd ers y 18eg ganrif.<ref name=A92>Bodlore-Penlaez, Mikael. ''Atlas of Stateless Nations in Europe'' (Talybont, Y Lolfa, 2011), t. 92.</ref>]]
Mae ardal Gorllewin Ffrisia heddiw yn cyfateb i dalaith [[Fryslân]] yn yr Iseldiroedd. Mae'r iaith Ffriseg yn gryf yn yr ardal hon: yn 2007 roedd 74% yn gallu siarad yr iaith, 75% yn medru ei darllen, a 25% yn medru ei hysgrifennu. Mae chwaraeon gaeafol yn boblogaidd yng Ngorllewin Ffrisia, yn enwedig [[Fierljeppen]] a [[sglefrio iâ]]. Mae'r ardal yn fyd-enwog am y [[buwch Ffrisiaidd|fuwch Ffrisiaidd]] a'r [[ceffyl Ffrisiaidd]]. Ymhlith prif drefi Gorllewin Ffrisia mae [[Franeker]] (Ffriseg: Frjentsjer), [[Harlingen]] (Harns), [[Het Bildt]] (It Bilt), [[Heerenveen]] (It Hearrenfean), [[Leeuwarden]] (Ljouwert), [[Smallingerland]] (Smellingerlân) gyda ei gyfalaf [[Drachten]], a [[Sneek]] (Snits).<ref name=A92/>
 
=== Gogledd Ffrisia ===