Iddewiaeth Hasidig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:Israel (4767338855).jpg|bawd|Iddewon Hasidig yn gweddïo wrth [[Mur yr Wylofain|Fur yr Wylofain]] yng [[Caersalem|Nghaersalem]].]]
Enwad [[Iddewiaeth|Iddewig]] sy'n canolbwyntio ar [[cyfriniaeth|gyfriniaeth]] yw '''Iddewiaeth Hasidig''', '''Iddewiaeth Hasidaidd''' neu '''Hasidiaeth'''. Sefydlwyd yn y 18fed ganrif gan y [[Rabi]] Israel Baal Shem Tov.
 
Sefydlwyd gan y [[Rabi]] Israel Baal Shem Tov tua chanol y 18fed ganrif. Cyfunodd y traddodiadau Iddewig o [[ysbrydolrwydd]] ac ysgolheictod, gan wrthwynebu astudiaethau [[seciwlariaeth|seciwlar]] a [[rhesymoliaeth]]. Ymledodd ar draws [[Dwyrain Ewrop]], yn enwedig [[Gwlad Pwyl]] a [[Lithwania]], gan ddenu Iddewon gyda'i ganeuon a dawnsiau [[diwygiad]]ol. Tynna athroniaeth Hasidig ar yr ysgol feddwl Cabala Lurianig, ffurf ar [[Cabala|Gabala]] a ddatblygwyd gan y Rabi Isaac Luria yn yr 16eg ganrif, ond heb ei hagwedd [[asgetigiaeth|asgetaidd]].<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Baal-Shem-Tov |teitl=Baʿal Shem Ṭov |dyddiadcyrchiad=23 Gorffennaf 2016 }}</ref> Pwysleisir [[mewnfodaeth]] Duw yn y bydysawd, yr angen i uno â Duw a chrefyddoldeb cyson, ac ysbrydolrwydd y byd corfforol a bywyd pob dydd. Trefnir dilynwyr Hasidiaeth yn "llysoedd" neu "linachau" annibynnol, a phob un gydag arweinydd etifeddol o'r enw Rebbe.
[[Categori:Iddewiaeth]]
 
{{eginyn Iddewiaeth}}
Rhwygodd yr enwad yn ystod ei gyfnod cynnar a datblygodd gwrthfudiad y [[Mitnagdim]], sy'n pwysleisio dysgeidiaeth rabinaidd a duwioldeb. Sefydlwyd y [[Chabad]] neu'r Lubavitch ym 1775, sy'n amrywiaeth ddeallusol ar y traddodiad Hasidig.
 
Gellir ystyried Hasidiaeth yn un o ddwy brif gangen o [[Iddewiaeth Haredi]] neu Dra Uniongrededd, ynghŷd â'r traddodiad Lithwanaidd sy'n pwysleisio astudiaeth y [[Talmwd]] yn yr [[yeshivah]]. Trigai'r mwyafrif o ddilynwyr heddiw yn [[yr Unol Daleithiau]], [[Israel]] a [[Lloegr]]. Mae'r mudiad modern yn hynod o geidwadol ac yn byw mewn cymunedau ar wahân i'r gymdeithas fwy.
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{comin|Category:Hasidic Judaism|Iddewiaeth Hasidig}}
 
[[Categori:Cyfriniaeth Iddewig|Hasidig]]
[[Categori:Iddewiaeth Uniongred|Hasidig]]