Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ifor Rees (awdur)"

Ychwanegwyd 267 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B (→‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB)
B
[[File:Ifor Rees.jpg|thumb|Y Parchedig Ifor Rees BD MA]]
Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd '''Ifor Rees'''' ([[1 Mawrth]] [[1921]] - [[27 Chwefror]] [[2004]]).<ref>[http://www.tafelai.com/blw2004/TAFOD186g.pdf Taf Elai; Ebrill 2004]</ref> Fe'i ganwyd yn 1921 yn [[Glasgow]] lle roedd ei dad yn gweithio fel [[saer]] ym mhorthladdoedd y ddinas yn ystod [[y Rhyfel Byd Cyntaf]]. Dychwelodd ei deulu i [[Mynydd-bach|Fynydd-bach]], [[Abertawe]] pan oedd yn ifanc iawn. Cafodd ei addysg gynnar yn [[Tirdeunaw|Ysgol Tirdeunaw]], ac yna [[Ysgol Ramadeg Abertawe]] a [[Coleg y Brifysgol Abertawe|Choleg y Brifysgol Abertawe]] lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yna, aeth yn bregethwr ar ôl mynychu’r Coleg Presbyteraidd yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]].
 
Ymunodd â’r BBC ym 1957 ym [[Bangor|Mangor]] fel cynhyrchydd radio cyn cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni am wledydd eraill lle bu’n arloesi yn y maes. Ar ôl gadael y BBC ym 1981, ffurfiodd gwmni cynhyrchu annibynnol ‘Ffilmiau’r Garth’ gyda’i wraig, Joan, gan adrodd hanesion nifer o wledydd gan gynnwys [[Groeg]], [[Twrci]], [[Denmarc]] a [[Dwyrain yr Almaen]]. Bu hefyd yn olrhain hanes O. M. Edwards mewn rhaglen a ffilmiwyd ar ynys Cyprus.
 
== Llyfryddiaeth ==
*''[[Peidiwch â Sôn]]'', (1973)
*''[[Dilyn Afon]]'', (1977)
*''[[Crwydro Clawdd Offa]]'', (1979)
*''[[Bro a Bywyd: T.H. Parry Williams]]'', (1981)
*''[[Bro a Bywyd: Cynan]]'', (1982)
*''[[Gwgwrus]]'', (1983)
*''[[Ar Glawr]]'', (1983)
*''[[Siwrneio]]'', (1990)
*''[[Dŵr o Ffynnon Felin Bach]]', (1995)
*''[[Gwŷr Llên Cwm Tawe|Bro a Bywyd: Gwŷr Llên Cwm Tawe]]'', (1995)
 
==Cyfeiriadau==
 
{{Rheoli awdurdod}}
{{DEFAULTSORT:Rees, Ifor}}
 
[[Categori:Genedigaethau 1921]]
[[Categori:Marwolaethau 2004]]
[[Categori:Pobl o Glasgow]]
[[Categori:Pobl addysgwyd yn Ysgol yr Esgob Gore]]
[[Categori:Gweinidogion ac offeiriaid Cristnogol]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 20fed ganrif]]