Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
map daeareg
Llinell 57:
 
==Geirdarddiad==
Yn wreiddiol defnyddiwyd yr enw "Cymry", ffurf luosog Cymro, i ddisgrifio'r wlad a'r bobl ynddi.<ref>{{dyf GPC |gair=Cymro |dyddiadcyrchiad=31 Gorffennaf 2016 }}</ref> Ymddengys y gair yn gyntaf mewn [[cerdd fawl]] i [[Cadwallon ap Cadfan]]<ref>[[Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig]], "CADWALLON AP CADFAN", tud. 112.</ref> sydd o bosib yn dyddio o'r seithfed ganrif, a daw o'r gair [[Brythoneg]] ''combrogos'' (lluosog: ''combrogi'') sy'n golygu "cydwladwr". Mae'r elfen [[bro]] yn parhau'n air am wlad neu ardal yn yr iaith fodern. Diflanodd y ''b'' tua'r flwyddyn 600, ond mae'r ''mb'' wedi aros yn y ffurf [[Lladin|Ladin]] am y wlad, ''[[Cambria]]'', yn ogystal â'r enwau [[Cumbria]] a Cumberland yng ngogledd Lloegr.<ref name=BLJ>[[Bedwyr Lewis Jones]]. ''Enwau (Llyfrau Llafar Gwlad)'' (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t. 4.</ref> Yn yr unfed ganrif ar bymtheg mabwysiadwyd y sillafiad "Cymru" i ddynodi'r wlad gan neilltuo "[[Cymry]]" ar gyfer y trigolion.<ref>Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, "CYMRU (yr enw)", tud. 239.</ref>
 
Y gair [[Germaneg]] ''walh'' neu ''wealh'' (estron) yw bôn yr enw Saesneg ar Gymru. O'r un gair daw enw'r [[Walwniaid]] yng [[Gwlad Belg|Ngwlad Belg]]. Defnyddid y ffurf luosog ''Wealas'' yn enw ar drigolion Brythoneg a Lladin eu hiaith ym Mhrydain gan y Saeson cynnar, a ''Cornwealas'' ar drigolion penrhyn [[Cernyw]] (y ''Corn''). Dros amser daethpwyd y ffurfiau ''Wales'' a ''Welsh'' yn enwau'r Saesneg ar wlad a phobl Cymru.<ref name=BLJ/>
 
== Hanes ==