Plas Clough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
delweddau
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Plas Clough.png|bawd|330px|Plas Clough rhwng [[Dinbych]] a [[Trefnant|Threfnant]].]]
Codwyd '''Plas Clough''', sy'n adeilad Gradd II* (rhif cofrestriad Cadw: 1064), gan [[Rhisiart Clwch|Syr Rhisiart Clwch]] ((g.? - 1570; Saesneg: Richard Clough); a Syr Thomas Gresham, sefydlydd y Gyfnewidfa Frenhinol yn [[Llundain]]. Marsiandwrmarsiandwr a chynrychiolydd Syr Thomas Gresham (am gyfnod) yn Ewrop oedd Rhisiart Clwch a drigodd yn [[Antwerp]], yn [[yr Iseldiroedd]] rhwng 1552 a 1567.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-CLOU-RIC-1570.html y ''[[Y Bywgraffiadur Cymreig]]'';] adalwyd 31 Gorffennaf 2016</ref> Ef a awgrymodd sefydlu 'r Gyfnewidfa Frenhinol yn [[Llundain]] i Syr Thomas Gresham.
[[Delwedd:Bachegraig house, Tremeichion.jpg|bawd|330px|Plasty [[Bachegraig]].]]
 
Yn yr Iseldiroedd, cyflwynwyd ef gan y cartograffydd a'r Is-Ellmynnwr Abraham Ortelius âi gŵrysgolhaig arall o [[Sir Ddinbych]], [[Humphrey Lhuyd]]. Priododd Clwch gyda Mam Cymru, fel y'i gelwid, sef [[Catrin o Ferain]] pan ddychwelodd o Antwerp a chododd y ddau dŷ priodasol, sef Plas Clough. Daeth yn ail ŵr iddi yn 1567. Hwn oedd cartref y teulu, ond tua'r un pryd (o fewn dwy flynedd iddynt briodi) codwyd tŷ arall yn y cyffiniau, sef [[Bachegraig|Bach-y-Graig]] (neu 'Bachegraig') a ddefnyddiai ar gyfer ei waith. Rhan yn unig o Fach-y-Graig sy'n dal i sefyll, wedi i gorff y plasty gael ei ddymchwel yn [[19eg ganrif|C19]]. Roedd Plas Clough yn fwy traddodiadol, a hwn yn sicr oedd eu prif gartref. Mae'r ddau adeilad yn hynod bwysig gan mai dyma'r mannau cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio [[bric]] mewn waliau a oedd yn cynnal pwysau lloriau eraill uwch ben. Ym Mhlas Clogh hefyd y defnyddiwyd, am y tro cyntaf, y ''crow-stepped gable'', motiff neu addurn Iseldireg, a gopiwyd ym mhensaerniaeth llawer o adeiladau wedyn, yng Ngogledd Cymru.
 
Bu farw Clough yn [[Hamburg]] rywbryd rhwng 11 Mawrth a 19 Gorffennaf 1570 a chladdwyd ef yn y dref honno, ond dygwyd ei galon yn ôl i Gymru i'w chladdu yn yr Eglwys Wen, Dinbych.