Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tarddiad yr enw
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 12:
 
== Tarddiad yr enw ==
Ynghynt,Yn y gorffennol tybiodd haneswyr megis [[J. E. Lloyd]] taw ffurf ar air Cymraeg oedd yn golygu casgliad o lwythau yw Gwynedd, o'r un gwraidd [[Celteg]] â'r [[Gwyddeleg|Wyddeleg]] ''fine'', sef llwyth.<ref name=BLJ>[[Bedwyr Lewis Jones]]. ''Enwau (Llyfrau Llafar Gwlad)'' (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t. 5–6.</ref> Bellach, cydnabyddir cysylltiad rhwng yr enw â'r Wyddeleg ''Féni'', sef un o enwau cynnar y Gwyddelod arnynt eu hunain, sy'n perthyn i ''fían'', "mintai o ŵyr yn hela a rhyfela, mintai o ryfelwyr dan arweinydd". Efallai ''*u̯en-, u̯enə'' (ymdrechu, dymuno, hoffi) yw'r bôn [[Indo-Ewropeg]].<ref>{{dyf GPC |gair=Gwynedd |dyddiadcyrchiad=31 Gorffennaf 2016 }}</ref> Ymsefydlodd Gwyddelod yng ngogledd-orllewin Cymru, ac yn [[Dyfed|Nyfed]], ar ddiwedd [[cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|cyfnod y Rhufeiniaid]]. ''Venedotia'' oedd y ffurf [[Lladin|Ladin]], ac ym [[Penmachno|Mhenmachno]] mae carreg goffa o tua'r flwyddyn 500 sy'n darllen ''Cantiori Hic Iacit Venedotis'' ("Yma y gorwedd Cantiorix, dinesydd o Wynedd").<ref name=BLJ/> Cedwid yr enw gan y [[Brythoniaid]] pan ffurfiwyd [[Teyrnas Gwynedd]] yn y 5ed ganrif, a barhaodd hyd [[goresgyniad Edward I|oresgyniad Edward I]]. Adferwyd yr enw hanesyddol hwn pan ffurfiwyd y sir newydd ym 1974.
 
== Hanes ==