Brwydr Maes Bosworth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
parhau: y frwydr
Llinell 40:
 
==Gadael Honfleur==
Ymgasglodd llu enfawr ym Mhorthladd Ffrengig [[Honfleur]], ar aber y [[Seine]], yn niwedd Gorffennaf 1485, tua 500 ohonynt yn Saeson a Chymru alltud. Yn hanes 'John Major' a gyhoeddwyd yn 1521 sonir i [[Siarl VIII, brenin Ffrainc]] gynnig 5,000 o filwyr i Harri, gyda mil o'r rheiny'n dod o'r [[Alban]], gyda Syr Alexander Bruce yn eu harwain. Ond nid yw'n glir faint yn union o Ffrancwyr a ddaeth. Yn rhyfeddol, ni sonia'r un hanesydd o Loegr am yr Albanwyr hyn.<ref>{{cite book|last1=Skidmore|first1=Chris|title=''Bosworth: The Birth of the Tudors|date=2013|publisher='' gan [[Chris Skidmore]]; Phoenix / Orion Books|location=London| 2013; Llundain; isbn=978-0-7538-2894-6|page= tud: 224|accessdate=; adalwyd 11 Ionawr 2016}}</ref> Wedi'r frwydr fe welwn i Harri wobrwyo Bruce gyda thaliad blynyddol o £20. Mae'r hanesydd Saesneg Chris Skidmore yn awgrymu fod dros hanner milwyr y llynges yn Ffrancwyr, llawer ohonynt o arsiwn Phillipe de Crevecoeur, Arglwydd Esquerdes. Cytuna Croniclwr Crowland gyda hynny, pan ddywedodd fod cymaint o Ffrancwyr ag oedd o 'Saeson'. Yn ôl Commynes roedd y 3,000 o Ffrancwyr a gasglodd 'ymhlith y dynion mwyaf didrefn Normandi cyfan!' Mae'n bosibl fod cadw'r rhain ar wahân i fyddin Rhys ap Thomas wedi bod yn ffactor pam y trafeiliodd y ddwy garfan ar wahân drwy Gymru.<ref>{{cite book|last1=Skidmore|first1=Chris|title=''Bosworth: The Birth of the Tudors|date=2013|publisher='' gan [[Chris Skidmore]]; Phoenix / Orion Books|location=London| 2013; Llundain; isbn=978-0-7538-2894-6|page= tud: 234|accessdate=11; Januaryadalwyd 2016}}11 Ionawr</ref>
 
Gadawodd 30 o longau Honfleur ar 1 Awst 1485 a chafwyd 'gwynt teg a ffafriol' y tu ôl iddynt. Philibert de Chandée oedd arweinydd y Ffrancwyr a chapteiniwyd y llongau gan Guillaume de Casanove (ei lysenw oedd "Coulon").
Llinell 63:
 
;10 Awst
Croewyd y Teifi ger tref Aberteifi gan aros am seibiant (medd y traddodiad) yn nhafarn "Y Tri Morwr" er mwyn sygrifennu rhagor o lythyrau i dywysogion ac Arglwyddi Cymreig. Ceir copi o un o'r rhain - llythyr at "John ap Meredith ap Jevan ap Meredith", sgweiar o ardal [[Eifionydd]]. Anddo, mae'n dweud: ''"... the great confidence that we have to the nobles and commons (hy yr uchelwyr a'r werin) of this our Principality of Wales... to descend into the realm of England for the recovery of the crown unto us... for the opression of that odious tyrantRichard late duke of Gloucester (hy Richard III)... and (return) their people to their original liberties, delivering them from such miserable servitudes..." Yn y llythyr hwn mae Harri'n gosod ei hun fel achubwr cenedl y Cymry ac yn annog ei bobl i ochri gydag ef.<ref>{{cite book|last1=Skidmore|first1=Chris|title=''Bosworth: The Birth of the Tudors|date=2013|publisher='' gan [[Chris Skidmore]]; Phoenix / Orion Books|location=London| 2013; Llundain; isbn=978-0-7538-2894-6|page= tud: 238|accessdate=; adalwyd 11 Ionawr 2016}}</ref>
 
Ger y 14fed garreg filltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberteifi arhosodd y fyddin i gael cyflenwad o ddŵr o Ffynnondewi. Wedi diwrnod hir o deithio 23 milltir, codwyd gwersyll ar dir plasty "Neuadd", cartref Dafydd ap Ieuan yn [[Llwyn Dafydd]] ym mhlwyf Llandysilio-gogo, ger [[Cwm Tudu]]. Mae Cwm Tudu ar yr arfordir, ac ychydig i ffwrdd o'u taith naturiol o Aberteifi i Aberystwyth, felly gellir ystyried y posibilrwydd i Harri gyfarfod a llongau yma, gyda chyflenwad o fwyd, arfau neu filwyr. Fel llawer o'r Cymry a fu'n driw iddo ar ei daith, gwobrwywyd Dafydd ap ieuan, wedi buddugoliaeth Maes Bosworth am ei garedigrwydd gydag anrheg o Gorn Hirlas ar orffwysfa arian, wedi'i addurno gyda draig Goch a milgi.
Llinell 100:
;20 Awst
Ymlaen i ddinas [[Lichfield]] dros 'Woosley Bridge', lle cafodd ei dderbyn gan y bobl gyda breichiau agored a chroeso cynnes. Tridiau ynghynt bu Thomas Stanley yn aros yn y ddinas gyda llu o 5,000 o filwyr. Ymddengys ei fod wedi paratoi'r ffordd ar gyfer Harri, sy'n dangos ei beth oedd ei safbwynt, ei duedd ar yr adeg yma: gyda Harri. Roedd sgowtiaid Richard yn dyst i'r croeso hwn a gafodd Harri; sylweddolodd Richard hefyd y gallai Harri fynd fel y coblyn i Lundain a hawlio'r Goron. Gwawriodd arno fod yn rhaid iddo ymosod yn sydyn, cyn i ragor ymuno gyda Harri a chyn iddo gyrraedd Llundain. Gwyddom i fyddin Richard dreulio'r noson yng [[Caerlŷr|Nghaerlŷr]] y noson hon, wedi martsio drwy'r dydd; ymunodd a dug Norfolk a oedd yn aros amdano.
 
==Y frwydr==
Yn ôl Ross roedd oddeutu 10,000 o filwyr yn y fyddin Iorcaidd, a gosodd Richard y rheiny ar fryncyn{{sfn|Ross|1999|p=215}}{{sfn|Mackie|1983|p=52}} mewn llinell o'r dwyrain i'r gorllewin, rhwng pentrefi Sutton Cheny a Shenton. Yn ôl Chris Skidmore roedd 15,000 yn ei fyddin.<ref>''Bosworth: The Birth of the Tudors'' gan [[Chris Skidmore]]; Phoenix / Orion Books 2013; Llundain; isbn=978-0-7538-2894-6 tud: 224; adalwyd 11 Ionawr</ref> Ar y dde iddo safodd Norfolk gyda tua 1,200 o saethwyr bwa ac ar y chwith iddo roedd Northumberland, yn gwarchod ei ochr arall gyda tua 4,000 o ddynion, llawer yn farchogion.<ref>{{harvnb|Gravett|1999|pp=54–55}}; {{harvnb|Ross|1999|pp=217–218}}.</ref> O'r fan honno gallai Richard weld y brodyr Stanley yn y pellter ar, i gyfeiriad y de ar Dadlington Hill, yn dal eu tir gyda 6,000 o ddynion, heb ochri gyda'r naill ochr na'r llall. I'r de-orllewin gallai weld byddin Harri.{{sfn|Ross|1999|p=217}}
 
Tua 5,000 o filwyr oedd gan Harri - hanner y nifer ym myddin Richard. Roedd dros eu hanner yn ddynion Rhys ap Thomas. Roedd gan Harri lai na 1,000 o filwyr a oedd yn Saeson: tua 300 a oedd wedi dod o Ffrainc, tua'r un faint o ddynion Talbot, a'r gweddill wedi dianc o fyddin Richard yn ystod yr wythnosau cyn y frwydr. Roedd rhwng mil a 1,700 o filwyr Ffrengig, dan arweiniad Philibert de Chandée yno hefyd a nifer helaeth o Albanwyr gan gynnwys Bernard Stewart, Arglwydd Aubigny.{{sfn|Mackie|1983|p=51}}{{sfn|Major|1892|p=393}}
 
==Gweler hefyd==