Ffotosynthesis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan Llywelyn2000 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Billinghurst.
Llinell 2:
Proses [[biocemeg|fiocemegol]] sy'n newid [[egni solar]] yn [[egni cemegol]] mewn planhigion gwyrdd, [[alga|algâu]] a rhai [[bacteria]] yw '''ffotosynthesis'''.
 
Mae planhigion yn cynhyrchu eu bwyd eu hunain drwy droi [[carbon deuocsid]] a [[dŵr]] yn gyfansoddion organig fel [[glwcos]] a [[protinprotein|phrotinauphroteinau]]. Mae'r planhigion yn cael carbon deuocsid trwy eu [[deilen|dail]] a'r dŵr drwy eu gwreiddiau. Gan mai [[adwaith endergonig]] ydyw, mae angen mewnbwn mawr o egni; ffynhonnell yr egni yw'r haul. Fel [[cynnyrch gwastraff]] mae'r planhigion yn cynhyrchu [[ocsigen]]. Mae rhai planhigion yn troi glwcos yn [[swcros]] i'w storio, e.e. [[cansen siwgr]] neu [[betys siwgr]], ond wedyn mae llawer o blanihigion yn troi'r glwcos yn [[starts]] i storio ynni, e.e. [[tatws]] neu [[meipen|faip]].
 
Mewn planhigion gwyrdd ac algae, mae'r [[cloroffyl]] y tu mewn i'r [[cloroplast]]au yn amsugno'r egni golau.
Llinell 26:
====Cadwyn cludo electronau====
[[Delwedd:Thylakoid membrane.png|bawd|320px|dde|Y systemau cynhaeafu golau a'r gadwyn cludo electronau]]
Mae’r derbynnydd electron yn pasio’r electronau egni uchel i system o gludwyr ar lefelau egni is. Mae’r gyfres o adweithiau [[ocsideiddio-gostyngiad]] yn rhyddhau meintiau bach o egni sy’n pweru’r [[cludiant actif]] o brotonau ar draws pilen y thylacoid i mewn i’r lwmen. Mae hyn yn creu [[graddiant electrocemegol]] ar daws y bilen gyda [[crynodiad|chrynodiad]] uchel o brotonau y tu mewn i’r lwmen a chrynodiad isel yn y stroma. Yn y bilen mae yna ronynnau protinprotein sy’n cynnwys yr [[ensym]] ATP synthas. Llif y protonau o'r lwmen i'r stroma drwy’r gronynnau hyn sy’n pweru’r synthesis o ATP:
:ADP <sub>(d)</sub> + Pi <sub>(d)</sub> → ATP <sub>(d)</sub> Δ''H''<sub>a</sub> = 30 kJ mol<sup>-1</sup>
Ar ddiwedd y gadwyn o gludwyr electronau mae yna system gynhaeafu arall sy’n ail-hybu’r electronau i [[cwantwm|lefelau egni]] uwch gan amsugno dau [[ffoton]]. Mae hyn yn rhoi digon o egni i'r electronau ostwng NADP i NADPH<sub>2</sub>.
Llinell 33:
 
===Y broses dywyll===
Mae’r broses olau yn cynhaeafu egni solar, a’i storio fel egni cemegol yn ffurf ATP a NADPH<sub>2</sub>. Y broses dywyll yw’r broses o ddefnyddio’r egni yma i ostwng [[carbon deuocsid]] i gyfansoddion organig fel [[glwcos]] a [[protinprotein|phrotinauphroteinau]]. Mae angen mwy na 50 moleciwl o [[ATP]] i ffurfio un [[moleciwl]] o glwcos.
Darganfuwyd y broses hon gan [[Melvin Calvin]] gan ddefnyddio [[isotop]]au [[carbon]] felly fe’i gelwir yn [[cylchred Calvin|gylchred Calvin]]: