Lewis Casson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
 
Actor a chynhyrchydd dramáu oedd '''Syr Lewis Casson''' ([[26 Hydref]] [[1875]] - [[16 Mai]] [[1969]]). Ganed ef ym Mhenbedw, swydd Caer. Hannai Thomas Casson, ei dad, o Ffestiniog, Meirionnydd, a bu briod á Laura Ann (g. Holland-Thomas). Treuliodd Lewis rai blynyddoed yn Ysgol Ramadeg Rhuthun cyn cychwyn cynnorthwyo Thomas ei dad, fel gwneuthurwr organau. Yna mynychodd y Coleg Technegol Canolog yn South Kensington cyn mynd i Goleg St. Mark, Chelsea, i'w hyfforddi'n athro. Erbyn 1903 fodd bynnag, roedd yn actor proffesiynol ar lwyfan y Court Theatre gyda'r ddrama Man and superman ac eraill. Yn fuan wedyn, yn 1907, ymunodd efo cwmni Miss Horniman yn theatr y Gaiety ble cafodd gyfle i ddechrau cyfarwyddo rhai o'r dramáu. Yno daeth i gyfarfod á Sibyl Thorndike, ei ddarpar wraig, a phriodasant yn swydd Caint ar 22 Rhagfyr 1908. Cawsant bedwar o blant.
 
Gwasanaethodd fel sarsiant yn y Rhyfel Byd Cyntaf gyda'r Amry Services Corps (1914-15) ac fel uwchgapten gyda'r Royal Engineers (1916-19). Anafwyd ef yn ystod y gyflafan, ac ennillodd y M.C. Wedi'r rhyfel dychwlodd i Lundain lle bu ef a'i wraig yn perfformio a chyfarwyddo mewn cynhyrchiadau niferus, fel St. Joan (1924). Roedd amser ganddynt i deithio rhyw ychydig, er enghraifft trwy Dde Affrica yn 1928, ac yn y Dwyrain Canol, Awstralia a Seland Newydd yn 1932. Bu'n cynhyrchu Henry V yn 1938 i Ivor Novello yn Drury Lane, a chyd-weithiodd gydag amryw o berfformwyr enwog eraill megis Lawrence Olivier a John Gielgud. Perfformiasant yng Nghymru hefyd y flwyddyn honno, gyda'r dramau Macbeth, King John, Candida, Medea a St. Joan. Ar ól cyflafan yr Ail Rhyfel Byd, teithiasant unwaith eto gan berfformio yng Nghaeredin, Efrog Newydd, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell, India, Awstralasi ac Affrica. Ymddangosasant mewn drama gan Clemence Dane ar ddathliad eu priodas jiwbili, sef Eighty in the shade (1959) a rhai cannoedd o rannau i actorion hyd at 1968.