Oes yr Iâ: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
diagram
diagram
Llinell 1:
[[Delwedd:Northern icesheet hg.png|250px|de|bawd|Rhewlifiant Hemisffer y Gogledd yn ystod yr oesoedd iâ diwethaf.]]
[[Delwedd:Oesoedd yr Ia SVG.svg|bawd|Diagram yn dangos y 4 Eon, gyda'r oes presennol ar yr ochr dde. Yn y gwaeld ceir y 5 prif Oes Iâ.]]
Cyfnod o oerfel eithriadol yn hanes y [[ddaear]] sy'n gallu parhau am gannoedd neu filoedd o flynyddoedd yw '''Oes yr Iâ'''. Yn ystod cyfnod fel hyn mae haen [[iâ]] trwchus yn gorchuddio rhannau o'r [[cyfandir]]oedd.
 
Rhenir llinell amser [[daeareg]]ol y Ddaear yn bedair [[Eon (daeareg)|Eon]]: y cyntaf yw'r Eon [[Hadeaidd]], a'i chychwyn yw ffurfio'r Ddaear. Fel yr awgryma'r gair, a ddaw o'r [[Hen Roeg]] 'Hades', roedd y Ddaear yn aruthrol o boeth, gyda [[llosgfynydd]]oedd byw ymhobman, ond yn araf oeroedd y Ddaear ac erbyn y 3ydd Eon, y [[Proterosöig]], daeth y tymheredd mewn rhai mannau o'r Ddaear yn is na [[rhewbwynt]] a chafwyd haenau trwchus o [[rhewlif|rewlifau'n]] ffurfio. Ers hynny cafwyd o leiaf 5 Oes yr Iâ sylweddol: yr [[Hwronaidd]] (''Huronian''), [[Cryogenaidd]] (''Cryogenian''), [[Andea-Saharaidd]] (''Andean-Saharan''), [[Oes Iâ Karoo]] a'r [[Rhewlifiant Cwaternaidd]] sef yr Oes Iâ rydym yn byw ynddi heddiw). Ar wahân i'r 5 cyfnod hyn, mae'n fwy na phosibl nad oedd rhew ledled y Ddaear gyfan.<ref>{{cite journal |author=Lockwood, J.G. |title=The Antarctic Ice-Sheet: Regulator of Global Climates?: Review |journal=The Geographical Journal |volume=145 |issue=3 |pages=469–471 |date=Tachwedd 1979 |jstor=633219 |doi=10.2307/633219 |last2=van Zinderen-Bakker |first2=E. M.|authorlink2=Eduard Meine van Zinderen-Bakker}}</ref><ref>{{cite book |url=https://books.google.com/?id=ihny39BvVhIC&pg=PA289 |title=Evaporites: sediments, resources and hydrocarbons |first=John K. |last=Warren |publisher=Birkhäuser |year=2006 |isbn=978-3-540-26011-0 |page=289}}</ref> Credir i gapiau rhew yr [[Arctig]] a'r [[Antartig]] gael eu ffurfio rhwng 5 a 15 miliwn o flynyddoedd [[cyn y presennol]] (CP).
[[Delwedd:Oesoedd yr Ia SVG.svg|bawd|550px|Diagram yn dangos y 4 Eon, gyda'r oes presennol ar yr ochr dde. Yn y gwaeld ceir y 5 prif Oes Iâ.]]
 
Ers tua 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl, mae [[hinsawdd]] cymharol oer yn gyffredinol wedi parhau gyda chyfnodau oer a chyfnodau cynnes yn dilyn ei gilydd, am gyfnodau o tua 100,000 o flynyddoedd fel rheol. Yn ystod Oesoedd yr Iâ roedd [[rhewlif]]au'n gorchuddio'r rhan helaeth o [[Ewrop]], gogledd [[Asia]], [[Gogledd America]] a [[Siapan]]. Am fod yr iâ yn ddwfn iawn, roedd lefelau y [[môr]] sawl troedfedd yn is na heddiw. Ar ôl Oes yr Iâ roedd lefel y môr yn codi drachefn gan gyrraedd y lefel presennol tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ogystal, mae'r tir yn codi ar ôl i bwys yr iâ gael eu cymryd i ffwrdd (e.e. mae'r [[Alban]] yn dal i godi 10,000 flynyddoedd ar ôl i'r iâ diweddaraf doddi) ([[cymhwysiad isostatig]]).