Rhewlifiant Cwaternaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 6:
Yn ystod y cyfnod hwn, cynyddodd y [[llenni iâ]] yn enwedig oddeutu [[Antarctica]] a'r [[Yr Ynys Las|Ynys Las]], a chafwyd llenni iâ'n tonni mewn mannau eraill hefyd e.e. llenni iâ Laurentide. Prif effaith yr oes iâ oedd erydiad a gwaddodi deunydd dros ran helaeth o'r cyfandiroedd, addasu systemau afonydd, ffurfio llawer o lynnoedd newydd, newid isostatig yng nghramen y Ddaear, gwyntoedd annormal yn ogystal â chodi lefel y môr. Mae'r Rhewlifiant cwaternaidd hefyd yn effeithio'r moroedd, llifogydd a chymunedau biolegol. Mae'r llenni iâ'n codi'r albedo a thrwy hyn yn effeithio ar dymheredd yr amgylchedd.
 
==UYY cyd-destun==
Rhenir llinell amser [[daeareg]]ol y Ddaear yn bedair [[Eon (daeareg)|Eon]]: y cyntaf yw'r Eon [[Hadeaidd]], sy'n cychwyn pan ffurfiwyd y Ddaear. Fel yr awgryma'r gair, a ddaw o'r [[Hen Roeg]], 'Hades' (uffern), roedd y Ddaear yn aruthrol o boeth, gyda [[llosgfynydd]]oedd byw ymhobman, ond yn araf, a thros gyfnod hir, oeroedd y Ddaear ac erbyn y 3ydd Eon, y [[Proterosöig]], daeth y tymheredd mewn rhai mannau o'r Ddaear yn is na [[rhewbwynt]] a chafwyd haenau trwchus o [[rhewlif|rewlifau'n]] ffurfio. Ers hynny cafwyd o leiaf 5 Oes yr Iâ sylweddol: yr [[Hwronaidd]] (''Huronian''), [[Cryogenaidd]] (''Cryogenian''), [[Andea-Saharaidd]] (''Andean-Saharan''), [[Oes Iâ Karoo]] a'r Rhewlifiant Cwaternaidd hwn sef yr Oes Iâ rydym yn byw ynddi heddiw). Ar wahân i'r 5 cyfnod hyn, mae'n fwy na phosibl nad oedd rhew ledled y Ddaear gyfan.<ref>{{cite journal |author=Lockwood, J.G. |title=The Antarctic Ice-Sheet: Regulator of Global Climates?: Review |journal=The Geographical Journal |volume=145 |issue=3 |pages=469–471 |date=Tachwedd 1979 |jstor=633219 |doi=10.2307/633219 |last2=van Zinderen-Bakker |first2=E. M.|authorlink2=Eduard Meine van Zinderen-Bakker}}</ref><ref>{{cite book |url=https://books.google.com/?id=ihny39BvVhIC&pg=PA289 |title=Evaporites: sediments, resources and hydrocarbons |first=John K. |last=Warren |publisher=Birkhäuser |year=2006 |isbn=978-3-540-26011-0 |page=289}}</ref> Credir i gapiau rhew yr [[Arctig]] a'r [[Antartig]] gael eu ffurfio rhwng 5 a 15 miliwn o flynyddoedd [[cyn y presennol]] (CP).