Lewis Casson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
adio manion
B gosod cysyslltiadau
Llinell 4:
Gwasanaethodd fel sarsiant yn y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Byd Cyntaf]] gyda'r Amry Services Corps (1914-15) ac fel uwchgapten gyda'r Royal Engineers (1916-19). Anafwyd ef yn ystod y gyflafan, ac ennillodd y M.C. Wedi'r rhyfel dychwelodd i Lundain lle bu ef a'i wraig yn perfformio a chyfarwyddo mewn cynhyrchiadau niferus, fel St. Joan (1924). Roedd amser ganddynt i deithio rhyw ychydig, er enghraifft trwy Dde Affrica yn 1928, ac yn y Dwyrain Canol, Awstralia a Seland Newydd yn 1932. Bu'n cynhyrchu Henry V yn 1938 i Ivor Novello yn Drury Lane, a chyd-weithiodd gydag amryw o berfformwyr enwog eraill megis Lawrence Olivier a John Gielgud. Perfformiasant yng Nghymru hefyd y flwyddyn honno, gyda'r dramau Macbeth, King John, Candida, Medea a St. Joan. Ar ól cyflafan yr [[Yr Ail Ryfel Byd|Ail Rhyfel Byd]], teithiasant unwaith eto gan berfformio yng Nghaeredin, Efrog Newydd, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell, India, Awstralasia ac Affrica. Ymddangosasant mewn drama gan Clemence Dane ar ddathliad eu priodas jiwbili, sef Eighty in the Shade (1959) a rhai cannoedd o rannau i actorion hyd at 1968.
 
Roedd cyfraniad Lewis Casson fel arweinydd mudiad Undeb Llafur yr Actorion, yn sylweddol, a siaradai'n hyawdl o blaid y theatr. Dewiswyd ef yn llywydd y British Actors' Equity (1941-45) ac fe'i dyrchafwyd ef yn farchog yn 1945. Hefyd fel arwydd o'i gyfranogiad i'r celfyddydau yn gyffredinol, cafodd dderbyn graddau er anrhydedd gan brifysgolion [[Glasgow]] (1954), [[Prifysgol Cymru|Cymru]] (1959) a [[Rhydychen]] (1966).
 
Ymwelasant á'u ty yn Bron-y-garth, ger [[Borth-y-Gest|Borthygest]], Porthmadog, weithiau, er mai yn Llundain yr oeddent wedi ymgartrefu. Gwerthasant Fron-y-garth yn 1949. Bu farw Lewis Casson ar 16 Mai 1969.