Rhyfel Caerdroea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 69 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q42937 (translate me) |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Troas.png|
Rhyfel a ddaeth yn rhan o fytholeg [[Groeg yr Henfyd]] oedd '''Rhyfel Caerdroea'''. Dywedir i fyddin o Roegwyr dan arweiniad [[Agamemnon]] ymosod ar ddinas [[Caerdroea]], yng ngogledd-orllewin [[Anatolia]]. Wedi deng mlynedd o ymladd, llwyddodd y Groegwyr i gipio'r ddinas trwy ystyw [[Ceffyl Pren Caerdroea]]. Y ffynhonnell fwyaf adnabyddus ar gyfer yr hanes yw'r ''[[Iliad]]'' gan [[Homeros]], ond dim ond hanes un rhan o'r rhyfel a geir yma.
Llinell 7:
Dechreua'r stori gyda phriodas [[Peleus]] a [[Thetis]]. Daw'r duwiau a'r duwiesau i gyd i'r wledd briodas, ond ni wahoddwyd [[Eris]], duwies anghydfod. Fel dial, mae Eris yn cymeryd afal aur, yn ysgrifennu "i'r harddaf" (τηι καλλιστηι) arno, a'i daflu i blith y gwahoddedigion. Canlyniad hyn yw ffrae rhwng y duwiesau [[Hera]], [[Athena]] ac [[Aphrodite]] pwy ddylai gael yr afal. Gofynnir i [[Paris (mytholeg)|Paris]], tywysog o Gaerdroea, farnu pa un o'r tair yw'r harddaf. Mae pob un o'r tair duwies yn addo gwobr i Paris os dyfarna'r afal iddi hi. Cynnig Aphrodite yw y caiff Paris y wraig brydferthaf yn y byd, [[Elen o Gaerdroea|Elen]] (''Helen''), gwraig [[Menelaos]] brenin [[Sparta]], yn gariad. Dyfarna Paris yr afal i Aphrodite.
[[Delwedd:Johann Balthasar Probst 008.jpg|
Mae Paris yn cipio Helen, a'i dwyn i Gaerdroea, lle mae ei dad, [[Priam]], yn frenin. Ymateb Menelaos yw gofyn cymorth ei frawd [[Agamemnon]], brenin mwyaf nerthol y Groegiaid. Gelwir arwyr y Groegiaid at ei gilydd, yn eu plith [[Achilles]] a'i gyfaill [[Patroclus]], yr hynafgwr [[Nestor]], [[Aiax (mytholeg)|Aiax]], [[Odysseus]], [[Calchas]] a [[Diomedes]], ac wedi ymgynull ar ynys [[Aulis]], maent yn hwylio am Gaerdroea.
|