Dyddiadur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
gogwydd Gymreig
Llinell 2:
Cofnod o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn ôl dyddiad yw '''dyddiadur''' (weithiau '''dyddlyfr'''), yn draddodiadol ar ffurf ysgrifenedig mewn llyfr. Gall ddyddiadur personol gynnwys manylion ar brofiadau'r awdur, eu teimladau a'i meddyliau, yn cynnwys sylwadau ar ddigwyddiadau'r dydd neu am brofiadau'r awdur. Gelwir rhywun sy'n cadw dyddiadur yn ddyddiadurwr. Mae dyddiaduron ar gyfer defnydd sefydliadol yn rhan sylfaenol o wareiddiad dynol, yn cynnwys cofnodion llywodraethol (e. e. [[Cofnod y Trafodion]] yng [[Cynulliad Cymru|Nghynulliad Cymru]], llyfr cyfrifon busnes a chofnod o [[gwasanaeth milwrol|wasanaeth milwrol]].
 
Erbyn heddiw defnyddir y gair ar gyfer dyddiaduron personol fel arfer, gyda'r bwriad o'u cadw'n breifat neu gylchrediad cyfyngedig gyda ffrindiau neu berthnasau. Cedwir dyddiaduron yr [[Arglwydd Roberts o Gonwy]] yn y [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] a chyfrifir [[Hafina Clwyd]] yn ddyddiadurwraig fodern nodedig.<ref>[http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/2781/desc/llyfrgell-genedlaethol-yn-derbyn-dyddiaduron-yr-arglwydd-roberts-o-gonwy/ ''Y Cymro''; adalwyd 22 Awst 2016.</ref>
 
Er bod dyddiadur yn gallu cofnodi manylion ar gyfer [[cofiant]], [[hunangofiant]] neu [[bywgraffiad|fywgraffiad]], nid yw fel arfer wedi ei ysgrifennu gyda'r bwriad o'i gyhoeddi fel y mae, ond ar gyfer defnydd yr awdur ei hun. Yn y blynyddoedd diweddar fod bynnag, mae tystiolaeth o fewn rhai dyddiaduron (e.e. [[Ned Rorem]], [[Alan Clark]], [[Tony Benn]] neu [[Simon Gray]]) bod rhai awduron yn ei hysgrifennu gyda'r bwriad o'i chyhoeddi yn y pen draw (cyn neu ar ôl marwolaeth) neu er elw.
 
Drwy estyniad mae'r gair '''dyddiadur''' yn cael ei ymestyn i gyhoeddi dyddiadur ysgrifenedig mewn llyfr; ac fe all gyfeirio at fathau arall o gofnodi yn cynnwys mewn fformat electronig (e.e. [[blog]]iau).
 
{{eginyn}}
==Dyddiadurwyr Cymreig==
Ymhlith y dyddiadurwyr Cymreig y mae:
*William Jones, ffermwr bychan ddiwedd oes Fictoria a dechrau'r [[20fed ganrif]]. Mae ei gofnodion amgylcheddol (tywydd, gweithgareddau fferm etc.) i'w gweld ar wefan [[Llên Natur]].<ref>[http://www.llennatur.com/Drupal7/llennatur/node/101 llennatur.com;] adalwyd 22 Awst 2016.</ref> Defnyddir cofnodion y ffermwr mewn cymhariaeth a chofnodion tywydd heddiw er mwyn ymchwilio i [[cynhesu byd-eang|gynhesu byd-eang]].
*[[D. Tecwyn Lloyd]] (22 Hydref 1914 - 22 Awst 1992)
*[[William Ambrose Bebb]] (4 Gorffennaf 1894 – 27 Ebrill 1955). Mae'r dyddiaduron, yn bennaf, yn cofnodi ei fywyd teuluol, ei waith yn ddarlithydd ac awdur, bywyd y capel ayb.
 
===Dyddiaduron Cledwyn Roberts o Gonwy===
Cedwir 18 cyfrol o ddyddiaduron yr Arglwydd Wyn Roberts o Gonwy yn y Llyfrgell Genedlaethol yn [[Aberystwyth]]. Maent yn cynnwys deunydd o'r cyfnod 1970 - 1995 tra roedd yn y [[Swyddfa Gymreig]] ac yn llefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig ac yn cynnwys ei fyfyrdodau ar ddigwyddiadau'r dydd gyda llythyron rhwng yr Arglwydd Roberts a'r farwnes [[Margaret Thatcher]], Syr [[John Major]] a Syr [[Edward Heath]], nodiadau amrywiol a thoriadau o'r wasg.
 
Mae'r dyddiaduron yn cyfeirio at ystod eang o bynciau gan gynnwys Etholiadau Cyffredinol, ymddiswyddiad Thatcher a [[Rhyfel y Malvinas]], ond mae llawer iawn yn ymwneud â materion Cymreig.
 
==Gweler hefyd==