Rhewlifeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Oes yr Iâ
Llinell 6:
 
==Golwg fras==
Mae ymchwil i hanes rhewlifau ac ail-greu modelau ohonynt ar wahanol gyfnodau yn y gorffennol yn gymorth i ragweld y dyfodol - pa mor gyflym y byddant yn meirioli ayb. Mae'r rhan fwyaf o waith y rhewlifegwr yn digwydd yn y ddau begwn: y Gogledd a'r De, oherwydd y tymheredd isel yno. Caiff rhewlif ei greu dros gyfnod hir iawn o amser, o ganlyniad i [[eira|fwrw eira]]; symudant yn araf, o dir uchel, mynyddoedd fel arfer, ar ffurf 'rhewlifau'r dyffrynoedd' neu gan symud o'r canol allan, ar ffurf 'rhewlifau cyfandirol'. Gelwir y math cyntaf hefyd yn 'rhew-afonydd' neu'n 'rhewlifau'r Alpau' a chreithir y tir ganddynt, gan greu geunentydd garw. Canfyddir yr ail fath, bellach, dim ond yn [[yr Ynys Las]] (Daneg: Grønland) aca'r [[AntarticaAntartig]] ac mae'r rhew yma'n dew: miloedd o fetrau o drwch ac arwynebedd o filoedd o gilometrau. Yn hytrach na chreithio'r tirwedd, maen nhw'n ei lyfnu.
 
==Y 5 prif oes iâ==
{{Prif|Oes yr Iâ}}
Rhenir llinell amser [[daeareg]]ol y Ddaear yn bedair [[Eon (daeareg)|Eon]]: y cyntaf yw'r Eon [[Hadeaidd]], a'i chychwyn yw ffurfio'r Ddaear. Fel yr awgryma'r gair, a ddaw o'r [[Hen Roeg]] 'Hades', roedd y Ddaear yn aruthrol o boeth, gyda [[llosgfynydd]]oedd byw ymhobman, ond yn araf oeroedd y Ddaear ac erbyn y 3ydd Eon, y [[Proterosöig]], daeth y tymheredd mewn rhai mannau o'r Ddaear yn is na [[rhewbwynt]] a chafwyd haenau trwchus o [[rhewlif|rewlifau'n]] ffurfio. Ers hynny cafwyd o leiaf 5 Oes yr Iâ sylweddol: y [[Rhewlifiad Hwronaidd]] (''Huronian''), y [[Rhewlifiad Cryogenaidd]] (''Cryogenian''), y [[Rhewlifiad Andea-Saharaidd]] (''Andean-Saharan''), [[Oes Iâ Karoo]] a'r [[Rhewlifiant Cwaternaidd]] sef yr Oes Iâ rydym yn byw ynddi heddiw). Ar wahân i'r 5 cyfnod hyn, mae'n fwy na phosibl nad oedd rhew ledled y Ddaear gyfan.<ref>{{cite journal |author=Lockwood, J.G. |title=The Antarctic Ice-Sheet: Regulator of Global Climates?: Review |journal=The Geographical Journal |volume=145 |issue=3 |pages=469–471 |date=Tachwedd 1979 |jstor=633219 |doi=10.2307/633219 |last2=van Zinderen-Bakker |first2=E. M.|authorlink2=Eduard Meine van Zinderen-Bakker}}</ref><ref>{{cite book |url=https://books.google.com/?id=ihny39BvVhIC&pg=PA289 |title=Evaporites: sediments, resources and hydrocarbons |first=John K. |last=Warren |publisher=Birkhäuser |year=2006 |isbn=978-3-540-26011-0 |page=289}}</ref> Credir i gapiau rhew yr [[Arctig]] a'r [[Antartig]] gael eu ffurfio rhwng 5 a 15 miliwn o flynyddoedd [[cyn y presennol]] (CP).
[[Delwedd:Oesoedd yr Ia SVG.svg|bawd|550px|canol|Diagram yn dangos y 4 Eon ([[Hadeaidd]], [[Archeaidd]], [[Proterosöig]] a [[Ffanerosöig]] sef yr oes bresennol ar yr ochr dde. Yn y gwaelod ceir y 5 prif Oes Iâ.]]
 
==Cyfeiriadau==