Moderniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
 
o'r Porth
Llinell 11:
 
Er mwyn gallu deall a gwerthfawrogi Moderniaeth, rhaid wrth ddealltwriaeth o newidiadau syfrdanol y cyfnod, yn gymdeithasol, diwydiannol, diwylliannol ac economaidd. Awgryma John Rowlands fod y ffactorau hyn yn eang ac yn bellgyrhaeddol: roeddent yn cynnwys cyhoeddi gweithiau [[Charles Darwin]] a [[Sigmund Freud]] ym meysydd [[bioleg]] a [[seicoleg]], a newidiasai yn sylfaenol y ffordd y meddyliai pobl amdanynt eu hunain; dirywiad cynyddol [[Cristnogaeth]] yn y Gorllewin, i raddau helaeth mewn ymateb i weithiau fel rhai Darwin, Freud ac eraill megis [[Nietzsche]] a Spengler; y [[Chwyldro Diwydiannol]], a arweiniodd at ad-drefnu cymdeithas yn sylweddol, ac at ddatblygu technoleg yn bellgyrhaeddol, ond a oedd erbyn cyfnod Moderniaeth efallai wedi colli rhywfaint o’r hyder cynnar yng ngwerth ‘Cynnydd’; dinistr enbyd y Rhyfel Byd Cyntaf; [[1930au|dirwasgiad y tridegau]]; a [[Dirfodaeth]].
 
Dadleuodd beirniaid megis Edna Longley mai ffôl yw defnyddio diffiniadau monolithig megis Rhamantiaeth a Moderniaeth – sydd yn gymwys ddigon i ddisgrifio llenyddiaethau diwylliannau mwyafrifol megis rhai [[Ffrainc]], [[Lloegr]] neu’r [[Almaen]] – wrth drafod llenyddiaethau lleiafrifol fel un Iwerddon. Eto i gyd, byddai eraill yn dadlau mai awduron [[Iwerddon|Gwyddelig]] a arloesodd ac a arweiniodd mewn llenyddiaeth o’r fath. Yn wir, mae modd cynnig, yn hytrach nag ymwrthod â’r term fel un sy’n fwy perthnasol i ddiwylliant mwyafrifol, mai dwysáu’r argyfwng Modernaidd a wna’r profiad lleiafrifol neu Gymraeg hefyd, oherwydd y ceir dimensiwn ychwanegol iddo: daw i ffocws mwy uniongyrchol a thyngedfennol wrth i lenorion Cymraeg wynebu posibilrwydd difodiant eu hiaith a’u diwylliant yn ychwanegol i’r ystyriaethau argyfyngus yr oedd artistiaid mewn gwledydd eraill yn eu hwynebu.
 
Serch hynny, mae’n rhaid cydnabod dyled Moderniaeth i fudiadau llenyddol eraill a’i rhagflaenodd, megis Rhamantiaeth, a chydnabod hefyd mai annelwig yw’r ffin rhyngddynt yn Gymraeg. Dychwelir at hyn maes o law; am y tro, mae modd gwahaniaethu rhwng Rhamantiaeth a Moderniaeth trwy awgrymu mai’r hyn a wna Moderniaeth yw wynebu erchylltra neu hylltra’r byd modern a’i bortreadu a’i gyfleu, yn hytrach nag adweithio iddo trwy ddelfrydu cyfnod a fu neu ddeisyfu am ddianc i fyd natur. Fel yr awgryma Dafydd Johnston, ‘ymwrthodai â llawer o ddulliau cydnabyddedig celfyddyd glasurol, megis naturiolaeth, soniaredd, naratif, a chynllun rhesymegol eglur – y math o nodweddion a wnâi gelfyddyd yn arwynebol ddymunol a swynol’.
 
==Diffinio moderniaeth==
Un o nodweddion pennaf moderniaeth yw hunan-ymwybyddiaeth ac eironi parthed [[llenyddiaeth]] a thraddodiadau cymdeithasol, a arweiniodd i arbrofion gyda ffurf, a thechnegau newydd a danlinellodd y prosesau a'r deunyddiau a ddefnyddid o fewn celf: i greu paentiadau, cerddi, adeiladau ayb.<ref>Gardner, Helen, Horst De la Croix, Richard G. Tansey, a Diane Kirkpatrick. ''Gardner's Art Through the Ages'' (San Diego: Harcourt Brace Jovanovich, 1991). ISBN 0-15-503770-6. t. 953.</ref> Gwelwyd gwrthod hen ddysgeidiaeth [[Realaeth (celfyddydau)]]<ref name="Barth79Replenishment"/><ref name="Graff73"/><ref name="Graff75"/> a thrawsnewidia gweithiau'r gorffennol drwy ddefnyddio technegau megis ailadroddiad llên a cherdd), ymgorfforiad (sgwennu), ailsgwennu, adolygiadau a pharodiau.<ref name="Eco90"/><ref name="Steiner98p489"/><ref name="Childs2000p17"/>
 
==Moderniaeth yng Nghymru==
Arloesodd Moderniaeth o ran ffurf, wrth i awduron arbrofi â ffurfiau a mesurau traddodiadol, neu ymwrthod yn llwyr â hwynt. Eto yma, mae angen pwysleisio nad ffenomen lenyddol yn unig yw Moderniaeth: gellir gweld yr un math o arbrofi ac arloesi ar waith yn y celfyddydau gweledol ([[Picasso]] yw un o'r engreifftiau amlycaf) a cherddoriaeth ([[Schoenberg]], er enghraifft). Yn sgil y diffiniadau hyn, dadleuodd rhai fod Moderniaeth yn hwyr yn cyrraedd Cymru, os cyrhaeddodd o gwbl, a bod un o gysyniadau canolog Moderniaeth, sef ymwrthod yn llwyr â thraddodiad, yn wrthnysig i’r meddylfryd Cymraeg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Rhydd Moderniaeth bwyslais ar y presennol, y cyfnewidiol a’r newydd, yn hytrach na’r tragwyddol, y sefydlog a’r traddodiadol. O fewn milieu llenyddol y Gymraeg felly, gellid yn hawdd gredu’r haeriad mai hwyr a gwan oedd dyfodiad Moderniaeth.
 
Mae lle i ddadlau, fodd bynnag, fod y bardd a'r llenor [[T. H. Parry-Williams]] wedi datblygu yn fodernydd o’r iawn ryw, a hynny cyn rhai o’r awduron mwyaf nodedig a gysylltir â’r dull yn Saesneg. Cyhoeddodd [[T. S. Eliot]], er enghraifft, ei gerdd ddylanwadol a charreg filltir fodernaidd 'The Waste Land' yn 1922; ond enillodd Parry-Williams goron yr Eisteddfod Genedlaethol rai blynyddoedd ynghynt gyda’i bryddest arobryn ‘Y Ddinas’ (1915). Awgryma [[Angharad Price]] fod y ‘modd y canolbwyntir yn realaidd ar fryntni bywyd y ddinas hyd yn oed wrth ddisgrifio bywydau’r breintiedig, yn gwneud hon yn gerdd nodweddiadol Fodernaidd.’
 
Gwaith cynnar yw ‘Y Ddinas’ o ystyried cerddi ‘canonaidd’ diweddarach Parry-Williams. Yn sicr nid yr un yw ei Foderniaeth ar y cyfan â moderniaeth Eliot neu [[James Joyce|Joyce]]; ni cheir yr un astrusi a chyfeiriadaeth yn y cerddi hynny ag a geir yn ''The Waste Land'' neu ''Ulysses''. Yma, fodd bynnag, dychwelir at yr awgrym nad hawdd canfod un diffiniad hollgynhwysol o Foderniaeth. Crynhodd Dafydd Johnston rai o’r elfennau Modernaidd sy’n nodweddu gwaith Parry-Williams ar ei hyd: yr ‘ansicrwydd, yr ymwybod â pherthynolrwydd a chymhlethdod bywyd, yr olwg oddrychol a’r argraff o bersonoliaeth ranedig.’ Wrth ddatblygu’i ddefnydd o’r rhigwm a chyflwyno ieithwedd fwy llafar a llai dyrchafedig neu glasurol i’w waith, yr oedd Parry-Williams hefyd wrth gwrs yn ‘ymwrthod â ffurfiau ac ieithwedd y traddodiad barddol’ – ac yn y cyd-destun Cymraeg, golygai hyn wrthryfela yn erbyn safonau arddulliol [[John Morris-Jones]]. Hyn oll a alluogodd beirniad fel [[J. E. Caerwyn Williams]] i alw Parry-Williams yn ''the first unequivocally “modern” literary artist working in Welsh''.
 
Mentrodd R. M. Jones awgrymu na chofleidiodd llenorion Cymraeg mo Foderniaeth erioed yn llwyr, ac mai ‘[m]ater o ddethol’ ydoedd: derbyn vers libre, bydolwg dirfodol, a ‘delweddaeth ymenyddol a chymhlethu’, ond gwrthod cyfeiriadaeth esoterig ac arbrofi’n ormodol â ffurf. ‘Yn fyr’, cynigia R. M. Jones, ‘nid cwbl ddwl yw honni i Gymru goginio ei “Moderniaeth” gynnil hi ei hun’.
 
Mae Dafydd Johnston yn dadlau i ni gael dwy don o Foderniaeth yn Gymraeg: ‘y gyntaf yn fath negyddol o Foderniaeth, a’r ail yn hanfodol gadarnhaol.’ Hynny yw, roedd y don gyntaf hon yn ‘gwbl anwleidyddol’, ond yr ail yn dangos rhagor o ymrwymiad i safbwynt gwleidyddol neu gymdeithasol ymroddedig, gyda barddoniaeth [[Gwenallt]] fel yr enghraifft orau o hyn. Ond mae hefyd yma yn awgrymu y gellid ystyried cynnyrch diweddarach [[R. Williams Parry]] wrth iddo ymateb i ganlyniadau llosgi’r [[Tân yn Llŷn|Ysgol Fomio ym Mhenyberth]] yn 1936 o fewn yr un garfan, yn ogystal â gwaith to newydd o feirdd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn cynnwys Waldo Williams, Euros Bowen, a Bobi (R. M.) Jones ei hun. Dan ddylanwad Saunders Lewis, bu i’r ail do hwn ailddarganfod pechod a Christnogaeth, ac ymateb yn fwy uniongyrchol ffyrnig hefyd i fodernrwydd o fewn eu Moderniaeth.
 
Mater arall yw ceisio dosbarthu cynnyrch llenyddol Saunders Lewis ei hun: ‘ar yr olwg gyntaf y mae [[Saunders Lewis]] yn gymysgedd rhyfedd o’r Modernaidd a’r traddodiadol,’ awgryma Dafydd Johnston. Ac eto, y mae’r berthynas hon rhwng ei Foderniaeth a’i bwyslais ar draddodiad yn dangos mor anodd yw diffinio Moderniaeth yn y cyd-destun Cymraeg, a chaiff Johnston drafferth hefyd wrth geisio disgrifio testunau fel ‘Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu’ (1953), cerdd J. Kitchener Davies. Awgryma, fodd bynnag, mai un nodwedd gyffredin ymhlith yr ail don o Fodernwyr Cymraeg nas cafwyd gan y gyntaf yw’r ‘gred ym mhŵer y dychymyg creadigol’: trwyddo, gall ‘grym trosgynnol celfyddyd’ ail-greu byd drylliedig, ac estyn yn ôl i archwilio traddodiad er mwyn cyflawni hynny. Gellir cymharu hyn â Moderniaeth gwledydd fel Iwerddon yn yr un cyfnod hefyd, yn ogystal â phwyslais rhai fel Eliot ar y ‘Traddodiad’ a’r ‘Talent Unigol’.
 
Dadleuodd beirniaid megis Alun Llywelyn-Williams na ddaeth Rhamantiaeth i’w llawn dwf yn yr iaith hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif – sef pan oedd gweddill y byd, i bob golwg, eisoes yn ymrafael â Moderniaeth. Cynigiodd R. M. Jones mai dyna pam na ddaeth Moderniaeth yn gyflawn i’r Gymraeg – roedd ei llenorion yn rhy brysur o hyd yn ceisio cyfuno Moderniaeth a Rhamantiaeth Sioraidd. Ymateb i’r un argyfwng y mae’r ddau fudiad, yn ôl John Rowlands: ‘[o]s mynegi ymdeimlad yr unigolyn o ddieithrwch wyneb yn wyneb â’r Chwyldro Diwydiannol a wnâi’r rhamantwyr cynnar, rhaid cydnabod mai parhau i ymdrin â dieithrwch... y mae’r modernwyr hefyd’.
 
Awgryma Rowlands, felly, fod y ‘llinell derfyn rhwng y rhamantaidd a’r modern mewn llenyddiaeth Gymraeg yn annelwig iawn. Gwelwn newid graddol yn agwedd beirdd unigol’. Enghreifftia hyn trwy enwi R. Williams Parry a T. Gwynn Jones, ac mae’r olaf yn enghraifft dda o’r modd y syniodd beirniaid gwahanol amdano mewn ffyrdd gwahanol. Er i [[Alun Llywelyn-Williams]], er enghraifft, ddefnyddio Jones yn enghraifft allweddol wrth ddisgrifio Rhamantiaeth Gymraeg, ystyria [[Jerry Hunter]] ei ddefnydd o ‘frithluniau dychymyg y canrifoedd’ – hynny yw, drylliau neu ddarnau o wahanol rannau o’r traddodiad llenyddol a hanesyddol Cymraeg – a’i ailddyfeisiad ohonynt, yn weithred nodweddiadol Fodernaidd. Eto i gyd, gellir olrhain y lle canolog a roddir i’r dryll a’r drylliedig mewn Moderniaeth yn ôl i’r modd y mawrygid y drylliedig a’r maluriedig gan artistiaid Rhamantaidd a Gothig.
 
Wrth ymrafael â’r amryw ddiffiniadau hyn, dychwelir at berthynas unigryw Moderniaeth Gymraeg â thraddodiad. Gwthiodd Hunter awgrym R. M. Jones ymhellach eto a chynnig ‘I would, however, put the noun in the plural, stating that a number of Welsh artists have cooked up a number of uniquely Welsh Modernisms’. Fel yr awgryma John Rowlands, ‘efallai’n wir fod awydd cryf am ein gweddnewid ein hunain (trwy gyfrwng [[seicoleg]]) neu drawsffurfio cymdeithas (trwy gyfrwng gwleidyddiaeth chwyldroadol) yn un o nodweddion pwysicaf ein canrif ni’. Yn hytrach, felly, nag awgrymu mai’n hwyrfrydig y daeth Rhamantiaeth i’r Gymraeg, neu na ddigwyddodd Moderniaeth ‘go iawn’ yn yr iaith, gellid ystyried mai rhyw fath ar raddfa neu gontinwwm yw’r gwahanol fudiadau a gafwyd mewn llenyddiaeth Gymraeg dros y ganrif a hanner ddiwethaf, a’u bod i gyd i raddau yn ymdrin ac yn ymhél â’r ymdeimlad cynyddol o ddieithrwch, o argyfwng gwacter ystyr, ac o geisio canfod ystyr a hunaniaeth mewn byd cynyddol eang ond cynyddol ddrylliedig. Os felly, ac os gellir galw peth fel hyn yn Foderniaeth, yna mae achos cryf dros ddadlau mai Moderniaeth, yn ei hamryfal ffurfiau ac agweddau, yw mudiad artistig llywodraethol, os nad diffiniol, yr 20g yn Gymraeg.
 
==Cyfeiriadau==