Gemau Olympaidd yr Haf 1908: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cyfeiriadau: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|de}} (2) using AWB
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Thomas Scott-Ellis, 8fed Barwn Howard de Walden
Llinell 1:
Cynhaliwyd '''Gemau Olympaidd 1908''', a adnabyddir yn swyddogol fel '''Gemau'r Olympiad IV''', yn [[Llundain]] yn [[1908]]. Bwriadwyd cynnal y gemau hyn yn [[Rhufain]] yn wreiddiol. Ar y pryd, rhain oedd y pumed [[Gemau Olympaidd Modern]]. Ond fe is-raddiwyd [[Gemau Olympaidd 1906]] ers hynny gan y [[Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol]] ac felly ystyrir gemau 1908 i fod y pedwerydd Gemau Olympaidd Modern, gan gadw o fewn y patrwm cylchred pedair mlynedd. Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol oedd [[Pierre de Coubertin|Baron Pierre de Coubertin]]. Bu [[Thomas Scott-Ellis, 8fed Barwn Howard de Walden]], perchennog [[Castell y Waun]] yn cystadlu yn y gystadleuaeth rasio cychod.
 
Roedd yr awdurdodau [[Yr Eidal|Eidalaidd]] yn paratoi'r isadeileddau ar gyfer y gemau pan echdorodd [[Vesuvius]] ar y [[7 Ebrill|7fed o Ebrill]] [[1906]], gan ddinistrio dinas [[Naples]] ger llaw. Fe ail-gyfeirwyd yr arian a neilltuwyd ar gyfer y gemau tuag at ail-adeiladu Naples, felly roedd angen lleoliad newydd. Dewiswyd Llundain, a chynhaliwyd y gemau yn [[White City, Llundain|White City]] wrth ochr yr [[Arddangosfa Ffranco-Brydeinig (1908)|Arddangosfa Ffranco-Brydeinig]], a oedd yn ddigwyddiad llawer mwy nodweddiadol ar y pryd. [[Berlin]] a [[Milan]] oedd yr ymgeiswyr eraill i gynnal y Gemau.