Gwenhwyfar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B fawr; enw
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:John Collier Queen Guinevre's Maying - Ausschnitt.jpg|thumb|250px|Gwenhwyfar; llun gan John Collier gyda'r teitl ''Queen Guinevre's Maying'']]
 
'''Gwenhwyfar''' ([[Lladin]]: ''Guinhumara'', [[Ffrangeg]]: ''Guenièvre'', [[Saesneg]]: ''Guinevere'') roeddoedd gwraig [[y Brenin Arthur]]. Disgrifir hi mewn rhai ffynonellau Cymraeg fel merch i [[Gogfran Gawr|Ogfran Gawr]], ac mae traddodiad fod iddi chwaer o'r enw Gwenhwyfach.
 
Ymddengys mewn nifer o testunau Cymreig, er enghraifft, crybwyllir hi yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', er nad oes ganddi ran fawr yn y stori. Ceir cyfres o hen englynion gyda'r teitl ''Ymddiddan Arthur a Gwenhwyfar'', sydd efallai wedi goroesi o chwedl goll gynnar amdani. Ym Muchedd [[Gildas]] o waith [[Caradog o Lancarfan]], dywedir i [[Melwas]], brenin ''Aestiva Regio'' ([[Gwlad yr Haf]]), ei chipio a'i chadw'n garcharor. Ymddengys y chwedl yma yng ngwaith [[Chrétien de Troyes]] hefyd. Mae fersiwn [[Sieffre o Fynwy]] o'r digwyddiad yn ei ''[[Historia Regum Britanniae]]'' ychydig yn wahanol; dywed iddi odinebu gyda [[Medrod]], nai Arthur, a gorffen ei hoes fel [[lleian]] yng [[Caerllion|Nghaerllion ar Wysg]]. Ceir nifer o gyfeiriadau ati yn [[y Tair Rhamant]].