Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 1:
Sefydlwyd '''Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru''', sy'n elusen gofrestredig, (rhif 259772) mewn cyfarfod yn [[Llangollen]] ar [[2 Medi]], [[1906]]. Nod y gymdeithas oedd i gasglu [[cerddoriaeth]] [[canu gwerin|werin]] a hybu canu traddodiadol y wlad. Ar eu gwefan, dywedir i'r gymdeithas gael ei sefydlu i 'gasglu, diogelu, dehongli a chyflwyno caneuon gwerin Cymru, cyhoeddi enghreifftiau ohonynt a hybu ymchwil i’w cefndir llenyddol a cherddorol, yn ogystal â meithrin diddordeb mewn canu gwerin a llên gwerin yn gyffredinol.'
 
Mae ''Canu Gwerin'', sef cylchgrawn y Gymdeithas, yn ymddangos bob [[Awst]], a chynhelir cyfarfod blynyddol o ddarlithiau, trafodaethau a chanu yn ogystal â darlith yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]]. Cyhoeddir cyfrolau o alawon a threfniannau hefyd yn achlysurol. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ond ceir peth gwybodaeth yn Saesneg ar eu gwefan.
 
==Sefydlu==
Un o brif sylfaenwyr y Gymdeithas oedd Dr [[John Lloyd Williams|J. Lloyd Williams]], darlithydd mewn [[botaneg]] ym [[Prifysgol Bangor|Mhrifysgol Bangor]] oedd hefyd yn gyfarwyddwr cerdd y coleg. Sefydlodd barti canu o blith ei fyfyrwyr gan eu hanog i gofnodi hen ganeuon llafar gwlad yn ystod eu gwyliau<ref>{{cite book| title=Llyfr y Ganrif |editor=Gwyn Jenkins |publisher=Y Lolfa |ISBN=0-86243-504-8}}</ref>
 
Llinell 6 ⟶ 10:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
*Gweler ''Canrif Gron/ The Welsh Folk-Song Society: A Whole Century'' gan [[D. Roy Saer]], a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas yn 2006 (ISBN 0 9532555 5 7).
 
{{eginyn Cerddoriaeth Cymru}}
 
[[Categori:Cerddoriaeth werin Cymru]]