Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 31:
Efallai oherwydd mai Bryntaf oedd yr unig ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd am ddegawdau fe ddatblygodd rhoi nodweddion unigryw.
 
Gêm buarth (neu 'iard') ysgol a chwaraewyd gan blant yr ysgol yn yr 1970au oedd "yr achi touch" (ynganiad: 'achi' gyda'r /χ/ yr èch Gymraeg a 'touch' gyda /t͡ʃ/ y 'ch' Saesneg). Mae natur ddwyieithog yr enw'n adlewyrchu natur [[dwyieithrwydd|ddwyieithog]] buarth yr ysgol: sy'n gyfuniad o'r gair Cymraeg 'achi' (tebyg i 'ych-a-fi') a'r gair Saesneg ''touch''. Roedd yn air arall ar y gêm ''tag'' neu ''touch'' lle mae un plentyn 'arno' ac yn cael gwared ar yr 'haint' gan gyffwrdd plentyn arall. Byddai'r plentyn oedd 'arno' fel rheol yn gorfod rhedeg ar ôl y plant eraill i'w cyffwrdd a phasio'r haint gyda'r 'achi touch'. Roedd modd amddiffyn eich hun rhag yr 'achi touch' drwy sefyll ar fan o'r enw 'cri' (neu gartref saff) e.e. petai'r plentyn yn cyffwrdd â ffens ddur y buarth, sefyll oddi ar y llawr neu ar ben gorchudd draen ddur. Daw'r cairgair 'cri' o'r Saesneg 'cree'<ref>'[http://www.randomhouse.co.uk/editions/the-lore-of-the-playground-the-childrens-world-then-and-now/9780099505273 The Lore of the Playground: one hundred years of children's games, rhymes and tradition]' gan Steve Round, Random House. - cyfeiriad a map at y gair 'cree'.</ref> a ddefnyddir ar draws Morgannwg (hyd at [[Abertawe]]), [[Gwent]], [[Sir Frycheiniog]], [[Swydd Gaerloyw]], rhan helaeth o [[Gwlad yr Haf|Wlad yr Haf]] a gogledd [[Wiltshire]].
 
Ebychiad o bosib unigryw i Fryntaf oedd "om". Defnyddwyd yn sicr yn yr 1970au. Nid yw'n sicr os defnyddiwyd y gair cyn hynny nac wedi i Bryntaf ddod i ben fel ysgol ac i'r disgyblion gael eu rhannu i bedair ysgol (ac yna mwy) ar draws Caerdydd. Defnyddiwyd "om" fel ebychiad ar ddechrau brawddeg i nodi anhapusrwydd â gweithred gan blentyn neu berson arall e.e. "om, fi'n dweud arnot ti am redeg yn y coridor"" neu "om, ti wedi dweud gair drwg"". Gellid ei ystyried yn ieithyddol fel ataliad llafar ('vocalised pause') neu 'filler' ond dydy hyn ddim yn gwneud llawn cyfiawnhâd gyda'r geiryn gan bod pwrpas benodol iddo, sef tanlinellu bod y siaradwr yn teimlo bod cam wedi digwydd. Does dim cofnod ysgrifenedig o'r geiryn ond ceir atgofion cyn-ddisgyblion o'r gair.