William Chambers: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

diwydiannwr a gr cyhoeddus
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cychwyn creu tudaeln William Chambers
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:26, 8 Medi 2016

Diwydiannwr a gwr cyhoeddus oedd William Chambers, 1774-1855. Ganwyd ef yn Llundain, a derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt o 1792 lle cafodd radd B.A. yn 1795, ac M.A. yn 1800. Trwy garedigrwydd neu gysylltiadau teuluol, etifeddodd William ystad Syr John Stepney, un o drigolion De Cymru, ar 18 Rhag. 1824, a daeth i fyw i Llanelly House, yn agos i eglwys y plwyf. Erbyn 1828, ef oedd uchel siryf sir Gaerfyrddin, a chyda cyd-weithrediad ei fab William Chambers, yr ieuaf (1809-1882), profodd lwyddiant sylweddol yn y maes diwydiannol trwy sefydlu'r South Wales Pottery yn 1840 gyda $10,000.

Ganwyd William Chambers yr ieuaf yn Valenciennes, Ffrainc, a derbyniodd ef ei addysg yn Eton a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt rhwng 1826 a 1828. Bu'r mab yn un o sylfaenwyr y Llanelly Reform Society yn 1839, ac er ei fod yn ynad, bu'n arweinydd yng ngyfarfod protest 'Merched Becca' ar Fynydd Sylen ar 25 Awst 1843.


CHAMBERS , WILLIAM ( 1774 - 1855 ; diwydiannwr a gŵr cyhoeddus . Yn ei ewyllys, dyddiedig 9 Awst 1802 , (dyfynnir hi yn ‘ An Act to enable William Chambers … to grant leases of certain estates ’, 1840 — copi yn Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd ), trefnodd Syr John Stepney (gw. teulu STEPNEY , i'w eiddo, mewn pedwar plwyf ar hugain, fyned, nid i'w frawd Thomas (a ddilynodd Syr John fel barwnig ar ei farwolaeth, 3 Hydref 1811 ), nac i etifeddion ei ddwy chwaer, ond i chwe pherson na perthynent i'r teulu, a'u hetifeddion gwryw hwythau. Yr oedd William Chambers o Bicknor , swydd Caint , yn un o'r rhain. Ar ôl dydd Chambers , oni fyddai etifeddion gwryw, yr oedd y stâd i fyned yn ôl i Syr Thomas Stepney , ac yna i etifeddion dwy chwaer Syr Thomas . Yn hynod iawn, bu'r personau a enwid yn yr ewyllys farw, y naill ar ôl y llall, yn gyflym iawn, heb etifeddion, ac fel canlyniad daeth y stad i feddiant William Chambers, 18 Rhag. 1824 . Bu Syr Thomas Stepney f. yn ddietifedd, 19 Medi 1825 . Ni cheir unrhyw esboniad ar yr ewyllys hon, arwahan i'r traddodiad teuluol fod Syr John Stepney wedi cweryla â'i frawd ac â'i chwiorydd.

G. William Chambers yn Llundain , ac addysgwyd ef yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt (cofrestrwyd ef 1792 ; B.A. , 1795 ; M.A. , 1800 ). Pan ddaeth stadau Stepney i'w feddiant, daeth i fyw yn Llanelly House (ger eglwys y plwyf), ty na fuasai teulu Stepney yn byw ynddo ers 60 mlynedd. Yn 1828 yr oedd yn uchel siryf sir Gaerfyrddin . Bu ef a'i fab yn amlwg iawn yn natblygiad diwydiannol Llanelli, yn neillduol drwy sefydlu'r South Wales Pottery yn 1840, gangwario £10,000 ar wneud hynny. Bu f. yn Llanelli , 9 Chwef. 1855 , yn 81 oed.


Gan fod y ddeddf a nodir uchod yn dweud nad oedd ganddo etifedd, rhaid tybio tybio mai mab anghyfreithlon oedd WILLIAM CHAMBERS , yr ieuaf ( 1809 - 1882 ). G. ef yn Valenciennes , Ffrainc , 24 Mai 1809 , a chafodd ei addysg yn Eton a Choleg S. Ioan , Caergrawnt (derbyniwyd ef 1826 , a chofrestrwyd ef Pasg 1828 . Nid oes tystiolaeth iddo raddio). Priododd Joanna Trant , merch Capten Payne , R.N. , 20 Gorff. 1835 , a bu iddynt 5 o blant. Bu f. 21 Mawrth 1882 yn 72 oed. Yr oedd William Chambers , yr ieuaf , yn wr a chanddo syniadau rhyddfrydol iawn. Yr oedd yn un o sylfaenwyr y Llanelly Reform Society yn 1839 . Er ei fod yn ynad , ef oedd yn y gadair yng nghyfarfod protest ‘Beca' ar Fynydd Sylen , 25 Awst 1843 . Er hynny, bu iddo ran yng nghipio arweinwyr ‘Beca' pan ymosodwyd ar glwydi ym Mhontarddulais , 6 Medi 1843 , a dioddefodd ddial y terfysgwyr (gw. John Jones . Rhoes dystiolaeth bwysig o flaen y comisiynwyr addysg yn 1849 , ac yn 1850 penodwyd ef yn gadeirydd cyntaf Bwrdd Iechyd Llanelli , a gymerth le'r bwrdeiswyr llygredig a fuasai'n gyfrifol am weinyddu stadau'r dre. Ar farwolaeth ei dad aeth stadau Stepney yn ôl i feddiant etifeddion chwiorydd Syr John Stepney , ond, yn unig, ar ôl achos cyfreithiol hir ( Llys y Siawnsri , 1865 ). Yn 1853 prynodd William Chambers , yr ieuaf , Hafod (a newidiasai berchenogion ddwywaith er pan fu f. Thomas Johnes . Gwerthodd yntau'r lle cyn ei farw.